Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Awst 2015

Gwasanaeth trin canclwm ar gael gan Gyngor Abertawe

Bydd preswylwyr Dinas a Sir Abertawe'n cael y cyfle i fynd i'r afael â'u problemau gyda chanclwm Japan gyda chymorth arbenigwyr y cyngor.

Mae'r cyngor yn cyflwyno gwasanaeth newydd gyda'r nod o ddefnyddio ei flynyddoedd o brofiad o fynd i'r afael â'r broblem ar dir cyhoeddus i helpu preswylwyr i gael gwared ar y planhigyn yn eu gerddi cefn.

Caiff y fenter ei lansio'r mis nesaf a gallai helpu cannoedd o ddeiliaid tai i gael gwared ar blanhigyn sydd ymhlith y rhai mwyaf ymledol ym Mhrydain ac yn un o'r problemau planhigion anhawsaf i'w datrys.

Dywedodd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, fod y cyngor wedi cronni blynyddoedd o brofiad o fynd i'r afael â'r broblem ar dir y mae'n berchen arno ac mae bellach yn cynnig ei arbenigedd i ddeiliaid tai preifat a busnesau ar sail fasnachol.

Meddai, "Bydd unrhyw un sydd wedi dioddef canclwm Japan yn gwybod nad yw'r chwynladdwr safonol yn cael unrhyw effaith arno a bydd y darn lleiaf sydd ar ôl yn aildyfu'n gyflym yn ystod y tymor tyfu.

"Nid yn unig y gall y planhigion fynd yn bla yn eich gardd a niweidio'ch planhigion, gallant hefyd niweidio eiddo a hyd yn oed amharu ar werthoedd eiddo.

"Fel cyngor mae gennym gyfrifoldeb i'w reoli'n ddiogel ar ein tir ein hun ac yng ngerddi tenantiaid tai'r cyngor. Ond mae deiliaid tai preifat bob amser wedi bod yn gyfrifol am yr hyn sy'n digwydd ar eu tir eu hun.

"Nawr bydd y gwasanaeth triniaeth rydym yn ei gynnig yn manteisio ar yr arbenigedd rydym wedi'i ddatblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf wrth drin canclwm Japan i helpu deiliaid tai a busnesau i ymdrin â'r broblem. Bydd y gost yn dibynnu ar faint y pla."

Mae'r gwasanaeth newydd yn rhan o raglen fasnacheiddio newydd flaengar Cyngor Abertawe sydd â'r nod o ddefnyddio arbenigedd y cyngor i ddatblygu busnesau newydd, y bydd yr elw a geir o'r rhain yn helpu i gynnal darpariaeth gwasanaethau craidd megis addysg a gofal cymdeithasol. 

Mae awdurdodau lleol yn Lloegr eisoes wedi cyflwyno gwasanaethau masnachol fel ffordd o gynyddu incwm i gydbwyso gostyngiadau cyllidebol ac mae arolwg llywodraeth leol a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf yn awgrymu y bydd yr arfer yn tyfu yn y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd Clive Lloyd, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid a Pherfformiad fod y Cabinet wedi ymrwymo i strategaeth fasnacheiddio newydd yn gynt eleni.

Meddai, "Bydd y gwasanaeth trin canclwm Japan byddwn yn ei gynnig yn un o'r mentrau cyntaf i ddeillio o'r gwaith hwn, sy'n rhan o'r rhaglen Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol.

"Rydym am ddatgloi ysbryd entrepreneuraidd ymhlith ein staff a rhoi cyfle ac ysgogiad iddynt feddwl am syniadau a fydd yn creu incwm i helpu i dalu am wasanaethau.

Meddai, "Rhaid i ni arbed £81 miliwn dros y blynyddoedd nesaf ac ar yr un pryd rydym am ddiogelu a gwella gwasanaethau gymaint ag y gallwn.

"Prif nod y strategaeth hon yw cefnogi ein blaenoriaethau fel diogelu pobl, mynd i'r afael â thlodi ac adeiladu cymunedau cynaliadwy. Mae pawb yn gwybod y byddwn yn cael llai o arian gan y llywodraeth yn y blynyddoedd i ddod, felly byddwn mewn sefyllfa well i gyflawni ein blaenoriaethau'n well os gallwn gryfhau gwasanaethau cyhoeddus trwy fod yn fwy masnachol."

I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaeth trin canclwm Japan, ewch i'r wefan ynhttps://www.abertawe.gov.uk/trincanclwm

 

Rhannu |