Mwy o Newyddion
Y cyhoedd i gael dweud eu dweud ar doriadau posib o £9 miliwn
MAE Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynnig i ganfod barn y cyhoedd ar amrediad o opsiynau posib ar gyfer toriadau i wasanaethau er mwyn pontio’r £9 miliwn y mae’r cyngor yn rhagweld y bydd angen ei ddarganfod o Ebrill 2016 ymlaen. Mae hynny ar ben yr arbedion effeithlonrwydd o £25 miliwn sydd eisoes yn y broses o’i wireddu.
Dros y misoedd diwethaf, mae gwaith manwl wedi ei wneud ar draws adrannau’r cyngor i adnabod opsiynau posib ar gyfer toriadau i wasanaethau ble bu i gynghorwyr o bob grŵp gwleidyddol graffu dros 100 o opsiynau posib.
Bydd yr opsiynau ar gyfer toriadau posib – sydd dros £13 miliwn, yn sail ar gyfer ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus traws-sirol sydd i gychwyn ganol Medi. Mae’n bwysig fod trigolion yn manteisio ar y cyfle hwn i gael dweud eu dweud ynglŷn â’r gwasanaethau y maent yn tybio sydd bwysicaf iddynt hwy a felly y dylid eu hepgor o’r rhestr derfynol o doriadau o £9 miliwn.
Ar ddiwedd yr ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus, bydd y cyngor yn ystyried yr holl ymatebion a’r sylwadau a gyflwynir cyn dod i benderfyniad gwybodus yn fuan yn 2016 ar ba doriadau i’w gwireddu.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Fel cyngor, ‘rydym wedi gwneud popeth y medrwn i alluogi arbedion effeithlonrwydd, fodd bynnag mae’r toriadau enfawr yr ydym yn parhau i’w hwynebu a’r toriad yn y gyllideb gan lywodraeth ganolog yn golygu nad oes dewis pellach ond gweithredu toriadau gwirioneddol i wasanaethau o Ebrill nesaf ymlaen.
“Mae’n hymdrechion unedig i wireddu arbedion, law yn llaw â chynnydd cyfyngedig yn y dreth cyngor, wedi’n galluogi i leihau’r bwlch ariannol yr ydym yn ei wynebu o £16 miliwn.
“Mae’r ffocws hwn ar gynyddu effeithlonrwydd i leihau’r angen am doriadau am barhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni, fodd bynnag mae’r pwysau cynyddol ar ein cyllideb yn sgil lleihad yn y dyraniad cyllidol a dderbynnir gan y llywodraeth yn golygu nad oes modd, yn anffodus, i osgoi toriadau gwirioneddol i wasanaethau.
“Fodd bynnag, yn hytrach na pharhau i weithredu toriadau i wasanaeth yn ddi-hid, rydym yn benderfynol o barhau â’n gweledigaeth o selio’n strategaeth ariannol ar flaenoriaethau trigolion Gwynedd.
“Dyma’r rheswm dros wahodd pobl leol i ddweud eu dweud ar yr amrywiaeth o bosibiliadau ar gyfer opsiynau i’w torri drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus helaethaf yn hanes y cyngor.
“Dim ond ar ddiwedd yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn, ac wedi ystyried adborth y cyhoedd fydd holl Gynghorwyr Gwynedd yn dod i benderfyniad ar restr derfynol ar gyfer torri fydd yn cael ei wireddu o Ebrill 2016 ymlaen.”
Meddai’r Cynghorydd Peredur Jenkins, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adnoddau: “Fel ag sydd yn wir ar draws y cynghorau yng Nghymru, mae Gwynedd yn wynebu toriadau anferthol yn y gyllideb a dderbynnir gan y llywodraeth tuag at y gost o dalu am wasanaethau lleol, ac fel ag amlygwyd yng Nghyllideb Haf y Canghellor, ni fydd newid i’r pwysau a roddir ar wasanaethau cyhoeddus am beth amser i ddod.
“Gwerthfawrogwn ein bod oll yn wynebu cyfnod hynod anodd, ond y ffaith yw bod agenda’r llywodraeth o lymder parhaus yn golygu nad oes dewis ond ystyried sut yr ydym yn cyflwyno toriadau i’n gwasanaethau yma yng Ngwynedd.
“Ein nod yw isafu effaith y toriadau hyn ar bobl Gwynedd, ac fe fyddwn felly’n gwahodd trigolion i gyfrannu at y broses drwy gymryd rhan mewn ymarferiad ymgysylltu traws-sirol yn yr hydref.
“Wedi hyn, gall Cynghorwyr ddod i benderfyniadau gwybodus pan fydd penderfyniadau ar doriadau’n digwydd yn Ebrill 2016.”
Cyn cychwyn ar ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus, bydd y cyngor yn cynnal ymgyrch gynhwysfawr i roi cyhoeddusrwydd i’r amrywiol gyfleoedd a fydd ar gael i drigolion ddweud eu barn.
Gall trigolion gofrestru eu diddordeb mewn cymryd rhan yn y broses ymgysylltu trwy lenwi ffurflen syml ar-lein ar: www.gwynedd.gov.uk/hergwynedd a bydd pob unigolyn sy’n cofrestru diddordeb yn cael gwybod y manylion yn ystod y misoedd nesaf.