Mwy o Newyddion

RSS Icon
16 Gorffennaf 2015

Llond lle o gefnogaeth i ddysgwyr yn yr Eisteddfod

Mae amryw o wasanaethau ar gyfer dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau, a gynhelir ym Meifod o 1-8 Awst eleni.

Yn ogystal â rhaglen lawn o weithgareddau ym Maes D, gyda sesiynau ar gyfer dysgwyr o bob safon, a’r rheiny sydd â diddordeb mewn dysgu’r iaith, mae app arbennig wedi’i gynhyrchu am yr ail flwyddyn er mwyn rhoi hwb i ddysgwyr wrth iddyn nhw grwydro’r Maes.

Mae ‘Geirfa’r Eisteddfod’ yn cynnwys ychydig o wybodaeth gefndirol am yr Eisteddfod, brawddegau ac ymadroddion defnyddiol a gwybodaeth am ddalgylch yr Eisteddfod – popeth sydd ei angen i’ch helpu i gael wythnos wrth eich bodd.  Gellir lawr lwytho’r app ar ffonau iPhone ac Android yn rhad ac am ddim.  Cafodd yr app hwn groeso brwd y llynedd, a rydym yn ddiolchgar i Brifysgol Aberystwyth am eu cymorth unwaith eto eleni.

Os nad yw app yn mynd â’ch bryd, mae gennym lyfryn arbennig unwaith eto eleni ar gyfer dysgwyr ac ymwelwyr newydd.  Bwriad Canllaw: A Guide for New Visitors yw rhoi rhywfaint o arweiniad a chymorth i bobl wrth ddod i’r Maes am y tro cyntaf. 

Mae copïau wedi’u dosbarthu ar hyd a lled ardal yr Eisteddfod, a gellir ei lwytho o wefan yr Eisteddfod.  Neu, ffoniwch 0845 4090 300 i ofyn am gopi a bydd copïau ar gael yn y Ganolfan Ymwelwyr a Maes D yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael yn rhad ac am ddim yn y Pafiliwn drwy gydol y dydd bob dydd, a bydd amryw o sesiynau eraill o amgylch y Maes yn cael eu cyfieithu hefyd.  Ewch i’r wefan, www.eisteddfod.org.uk am fanylion y sesiynau hyn, neu edrychwch am y logo cyfieithu yn y rhaglen boced ac ar yr arwyddion o amgylch y Maes. 

Mae cyfres o daflenni am y prif seremonïau ar gyfer dysgwyr wedi cael eu cynhyrchu.  Mae’r rhain yn cynnwys gwybodaeth gefndirol am y seremoni’i hun, ynghyd ag ychydig o eirfa, a bydd y rhain ar gael o Maes D, y Ganolfan Gyfieithu wrth ymyl y Pafiliwn, y Ganolfan Ymwelwyr ac i’w lawr lwytho o’r wefan ymlaen llaw.

Yn ogystal, bydd teithiau tywys dyddiol o amgylch y Maes ar gyfer dysgwyr, a bydd y rhain yn gadael y Ganolfan Ymwelwyr am 11.30 bob bore.  Does dim rhaid archebu lle ar un o’r teithiau hyn, a’u bwriad yw rhoi blas o’r Maes i ymwelwyr cyn iddyn nhw fynd i grwydro ar eu pennau’u hunain.

Mae amserlen lawn Maes D ar gael i’w lawr lwytho o’r wefan, neu gallwch ffonio’r swyddfa am gopi llawn. 

Cefnogir Maes D gan Lywodraeth Cymru a Boom Pictures.

Rhannu |