Mwy o Newyddion
Cynnydd da o ran cadw pobl ifanc mewn addysg a hyfforddiant
Mae un o bolisïau blaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer cadw pobl ifanc ar lwybr cadarnhaol o addysg neu hyfforddiant yn llwyddo yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw.
Mae adroddiad gwerthuso Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid Llywodraeth Cymru yn dweud bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud cynnydd da yn y gwaith o atal pobl ifanc rhag gadael addysg neu hyfforddiant ers i’r fframwaith gael ei lansio ym mis Hydref 2013.
Mae’r adroddiad yn nodi bod pob awdurdod lleol wedi datblygu cynlluniau cadarn ar gyfer rhoi’r polisi newydd ar waith a bod pob un hefyd wedi penodi Cydlynydd pwrpasol i arwain y gwaith o gadw pobl ifanc ar lwybr cadarnhaol.
Mae 20 awdurdod lleol wedi datblygu systemau ‘adnabod yn gynnar’ er mwyn canfod pobl ifanc sy’n agored i gael eu hymddieithrio. Dywedodd yr adroddiad fod hyn wedi cael adborth cadarnhaol gan ysgolion a staff Awdurdodau Lleol. Dywedodd un person a gyfwelwyd fod y dull newydd newydd wedi ‘helpu i atal rhai pobl ifanc rhag cwympo trwy’r bylchau gan ei fod wedi canfod ambell i berson ifanc na fyddai wedi cael ei ganfod fel arall’.
Mae’r adroddiad yn gwneud 23 o argymhellion gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer newidiadau i’r Fframwaith, megis addasiadau i’r cyngor, y cymorth a’r canllawiau a ddarperir i ysgolion, cynghorau, ac asiantaethau eraill sy’n rhan o’r gwaith o gefnogi pobl ifanc.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James: “Mae cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n ymwneud ag addysg dda, cyflogaeth dda neu hyfforddiant o safon wedi bod yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.
“Mae tystiolaeth glir i ddangos ein bod yn gwneud cynnydd sylweddol o ran cadw pobl ifanc ar lwybr cadarnhaol. Mae ffigurau diweddar yn dangos mai 8.1% o bobl ifanc 16-18 oed nad oeddynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant yn 2014, o’i gymharu â 11.9% y flwyddyn flaenorol.
“Fel y mae’r adroddiad hwn yn dangos, mae ein Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn cael ei ddefnyddio i helpu mwy o bobl ifanc i ymgymryd ag addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant. Rwy’n fodlon â’r cynnydd yr ydym yn ei wneud ac am ein gweld yn parhau â’r cynnydd hwn yn y dyfodol er mwyn i bob person ifanc gael cymorth effeithiol ac amserol i’w cadw ar lwybr cadarnahol.
“Awn ati nawr i ystyried y gwerthusiad hwn a’i argymhellion a pharhau â’r momentwm cadarnhaol y sonnir amdano yn yr adroddiad.”