Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Gorffennaf 2015

Y Pierhead i nodi 75 mlynedd ers Brwydr Prydain

Bydd y Fonesig Rosemary Butler, y Llywydd, yn cynnal gwasanaeth coffa ar heddiw am 18.30 yn adeilad y Pierhead i nodi 75 mlynedd ers Brwydr Prydain. 

Mae'r Llywydd yn cynnal y digwyddiad ar y cyd â Marsial yr Awyrlu, Syr Dusty Miller, Llywydd Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol.  

Cymdeithas y Lluoedd Awyr Brenhinol yw elusen swyddogol y llu awyr brenhinol ac mae'n rhoi cymorth lles i deulu'r awyrlu. 

Mae'r digwyddiad hwn yn un o nifer o wasanaethau coffa sy'n cael eu cynnal ledled y Deyrnas Unedig eleni i nodi 75 mlynedd ers Brwydr Prydain. Nod y gwasanaethau hyn fydd cofio am ymdrechion ac aberth swyddogion awyr a chriwiau daear eiconig y frwydr hon.

Bydd cyn-filwyr a swyddogion, gan gynnwys Dr Peter Beck, Arglwydd Raglaw De Morgannwg, yn bresennol yn y digwyddiad a bydd yn gyfle i ddiolch i Gymru a phobl Cymru am eu rhan yn y frwydr hanesyddol hon.

Bydd y 140 o wahoddedigion, sydd bron i gyd yn aelodau neu'n gyn-aelodau o'r llu awyr brenhinol, yn clywed Band Catrawd yr Awyrlu yn cymryd rhan yn 'Seremoni'r Machlud.'

Bydd awyren Hawk hefyd yn hedfan heibio am 20.00 (yn ddibynnol ar y tywydd) a chaiff aelodau'r cyhoedd gyfle i fwynhau'r olygfa y tu allan i adeilad y Pierhead. 

Dywedodd y Llywydd: "Er bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn sefydliad sy'n gymharol ifanc o hyd, mae ganddo hanes hir o gefnogi ein lluoedd arfog ac felly roeddwn yn hynod o falch o gael gwahoddiad i groesawu gwahoddedigion y Llu Awyr Brenhinol. 

Gwyddom am y colledion sylweddol a ddioddefwyd er mwyn amddiffyn ein gwlad. Mae'r rhyddid a democratiaeth yr ydym yn eu mwynhau heddiw i raddau helaeth oherwydd dewrder ein dynion a menywod ifanc yn yr awyr ac ar y tir, ac ni ddylem fyth anghofio hynny."

Dywedodd Marsial yr Awyrlu, Syr Dusty Miller, Llywydd Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol:  "Mae Cymdeithas y Llu Awyr Brenhinol yn falch o gael arwain diolchiadau'r genedl i bawb a chwaraeodd ran ym Mrwydr Prydain. Mae hanes y Llu Awyr Brenhinol yng Nghymru yn un hir a balch.

"Roedd tua 30 o feysydd glanio yn weithgar yn ystod yr Ail Ryfel Byd a chyfrannodd nifer ohonynt yn uniongyrchol gyda sgwadronau o awyrennau Spitfire a Hurricane. Mae'n rhoi pleser mawr i mi allu tynnu sylw at hyn yn y Cynulliad Cenedlaethol." 

Rhannu |