Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Gorffennaf 2015

Pont Briwet newydd yn agor i’r cyhoedd

Wedi llawer o gwyno o gyffiniau Harlech am yr oedi, daeth dau o ddisgyblion, Sion Owen Lloyd-Morris o Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth a Sioned Evans o Ysgol Talsarnau ynghyd ddydd Llun i dorri’r ruban ac agor Pont Briwet yn swyddogol.

Cymerodd y plant fantais llawn o’r bont newydd sbon, gyda rhai yn cyrraedd ar y trên, ac eraill yn cerdded a beicio ar hyd y llwybr newydd. Daeth nifer o bobl ynghyd i gael mwynhau’r cyfle o gerdded ar hyd y bont newydd sydd wedi ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd cyn iddo agor yn swyddogol i gerbydau.

 Mae’r cynllun Pont Briwet newydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn ogystal â derbyn cyllid gan Network Rail, grantiau trafnidiaeth lleol Llywodraeth Cymru sy’n cael eu gweinyddu trwy gonsortiwn trafnidiaeth canolbarth Cymru Trac a Chyngor Gwynedd.

Yn ystod agoriad swyddogol y bont newydd ar hyd yr Afon Dwyryd, sy’n cymryd lle’r hen bont a oedd yn ganrif a hanner oed, rhoddwyd gair o ddiolch i’r plant gan Y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Cadeirydd Cyngor Gwynedd.

Meddai: “Rydym yn hynod o falch fod y dydd hir-ddisgwyliedig wedi cyrraedd gyda chyswllt unwaith eto rhwng y cymunedau lleol yma. Mae’r aflonyddwch i’r cymunedau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu o ganlyniad i gau’r bont wedi dangos yn glir pa mor bwysig ydi’r bont hon i’r ardal, a pha mor hanfodol oedd hi i ddenu buddsoddiad sylweddol i  gymryd lle’r hen bont wreiddiol a oedd wedi cyrraedd diwedd ei hoes. Bydd y bont a’r rheilffordd yn ased i’r ardal am flynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar faterion trafnidiaeth: “Rwy’n hapus dros ben fod y bont newydd gwerth £20 miliwn ar agor. Rydym yn gwerthfawrogi fod y gwaith adeiladu wedi bod yn gyfnod anodd i’r preswylwyr a’r busnesau lleol. Rydym yn falch iawn fod y prosiect wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol yn yr economi leol gyda nifer o gwmnïau lleol wedi eu cyflogi ar agweddau amrywiol o’r adeiladu. Gyda’r bont newydd yn ei lle, bydd yn gyswllt hanfodol i’r ardal leol ac i’r rhan yma o Feirionnydd.

“Er i’r bont rheilffordd agor ym Medi 2014, mae bellach ffordd gerbydau ddwy ffordd wedi cymryd lle’r hen lôn doll unigol. Wrth gwrs, yn flaenorol, doedd dim ffordd ddiogel i gerddwyr a beicwyr groesi, ond bydd y llwybr i’r cerddwyr a’r beicwyr yn cysylltu i Lwybr Arfordir Cymru ac yn cynnig golygfeydd anhygoel o Afon Dwyryd a’r mynyddoedd o’i hamgylch.”

Rhannu |