Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Gorffennaf 2015

Gall Cymru arwain y ffordd ar dreth diodydd llawn siwgr

Mae Plaid Cymru wedi croesawu cefnogaeth y Gymdeithas Feddygol Brydeinig i dreth ar ddiodydd llawn siwgr.

Cyhoeddodd Plaid Cymru eu cynlluniau i osod treth ar ddiodydd llawn siwgr am y tro cyntaf ym mis Hydref 2013, er mwyn lleihau’r gormodedd o siwgr mae pobl yn fwyta.

Cafwyd cefnogaeth helaeth i dreth ar ddiodydd siwgr, gan brif ymgynghorydd Llywodraeth y DG ar ordewdra, y cogydd enwog Jamie Oliver, ac yn awr y BMA, ymysg cyrff proffesiynol eraill. Dywedodd  swyddog meddygol Llywodraeth Cymru ei hun fod y cynnig yn haeddu ystyriaeth ddifrifol.

Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones: “Gor-fwyta siwgr yw un o’r problemau iechyd cyhoeddus mwyaf sy’n ein hwynebu, ac y mae treth pop Plaid Cymru yn gam pwysig tuag at fynd i’r afael â’r broblem hon, gan adael i ni fuddsoddi yn y gwasanaeth iechyd.

"Yng Nghymru, mae gennym rai o’r cyfraddau uchaf o orfwyta siwgr ac o ordewdra, felly mae’n rhaid i ni fod ar flaen y gad wrth drin y materion hyn. Gall Cymru arwain y ffordd yn hyn o beth. Mae’n dda gweld mwy a mwy o arbenigwyr meddygol yn cadarnhau gweithredu tebyg i Blaid Cymru.”

Rhannu |