Mwy o Newyddion
Protest llyfrgelloedd
Nos fory, 15 Gorffennaf, 5.45pm, bydd protest y tu allan i'r Ganolfan ym Mhorthmadog, lle bydd cynghorwyr Gwynedd ac eraill yn cael clywed canlyniadau ac argymhellion yr arolwg diweddar a gynhaliwyd i lyfrgelloedd y sir.
Yn wreiddiol, roedd y cyfarfod yn un agored. Wythnos yn ôl, newidwyd y lleoliad, yr amser a datgan mai trwy wahoddiad yn unig yr oedd modd cael mynediad.
“Rydan ni wedi cael ein siomi,” meddai Ben Gregory, aelod o Ddyffryn Nantlle 2020, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros Lyfrgell Penygroes.
“Yn waeth byth, gwelsom ohebiaeth sy'n awgrymu fod y penderfyniad i dynnu'r gefnogaeth i rai llyfrgelloedd wedi ei wneud eisoes.”
“Beth oedd y pwynt, mewn cyfnod o gyni, i wario £24,000 ar ymgynghoriad? O'r cychwyn, maent wedi trin y llyfrgelloedd yn y pentrefi yn eilradd i'r rhai mawr.”
Mae'r ymgyrchwyr yn poeni hefyd am yr effaith ar y tlotaf yn y sir.
“Os mai ffafrio ardaloedd efo wardiau difreintiedig yw'r esgus dros gadw oriau Bangor a Chaernarfon, pam nad yw ward ddifreintiedig Talysarn yn cael yr un ystyriaeth?” gofynnodd Ben.
Mae pobl Dyffryn Nantlle wedi dangos eu parodrwydd i gefnogi eu llyfrgell.
“Pump o bobl ddaeth i'r ymgynghoriad yn Llyfrgell Bangor a Chaernarfon, tra daeth 143 i'r un ym Mhenygroes,” meddai Ben.
Y prif awgrym yn nogfen y Cyngor yw fod llyfrgelloedd llai yn troi yn rhai 'cymunedol' (hy yng ngofal gwirfoddolwyr, a chael eu cynnal gan arian y gymuned) tra nad oedd awgrym o gwbl y dylai llyfrgelloedd y trefi, sydd efo mwy o bobl ac arian, wynebu amodau o'r fath. Bydd y protestwyr yn galw ar y cynghorwyr i wrthwynebu'r toriadau a chadw pob llyfrgell ar agor.