Mwy o Newyddion
Dathlu bywyd Islwyn Ffowc Elis
BYDD cyfle i ddathlu bywyd Islwyn Ffowc Elis, un o’r awduron mwyaf poblogaidd yn yr iaith Gymraeg, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod eleni.
Dechreuodd gyrfa Islwyn Ffowc Elis fel nofelydd yn 1953 gyda’i waith Cysgod y Cryman, a droswyd i’r Saesneg fel Shadow of the Sickle, ac a ddewiswyd yn 1999 fel y llyfr Cymraeg mwyaf arwyddocaol yr 20fed canrif.
Bu hefyd yn amlwg iawn yn ymgyrch Plaid Cymru dros hunanlywodraeth, gan ymladd isetholiad Maldwyn drosti yn 1962.
I nodi ei gyfraniad, mae Cymdeithas Hanes Plaid Cymru’n noddi darlith yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, Powys. Teitl y ddarlith yw Hystings ym Mharadwys: Islwyn Ffowc Elis ac Isetholiad Maldwyn, 1962.
Y darlithydd fydd yr ysgolhaig nodedig, T Robin Chapman, awdur cofiant Islwyn Ffowc Elis, sef Rhywfaint o Anfarwoldeb.
Traddodir y ddarlith yn y Gymraeg ym Mhabell y Cymdeithasau 2 brynhawn Dydd Mercher 5 Awst am 3:30pm.