Mwy o Newyddion
Cynghorydd Plaid Cymru newydd i Wynedd
Mae dathlu yn Llŷn wedi’r cyhoeddiad bod Sian Hughes o Forfa Nefyn wedi ei hethol fel Cynghorydd newydd i Blaid Cymru ar Gyngor Gwynedd.
Gyda 72% o’r bleidlais yn mynd i Sian Hughes, 315 o bleidleisiau, etholwyd y ferch ifanc i’r sedd gan drechu ymgeisydd Llais Gwynedd, Wini Jones Lewis yr ymgeisydd arall, dderbyniodd 123 o bleidleisiau.
Galwyd yr Is Eholiad yn Ward Morfa Nefyn sy’n cynnwys Edern ar y 9 o Orffennaf, yn dilyn ethol y cyn gynghorydd dros y Ward, Liz Saville Robertsm, yn Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd yn yr Etholiad Cyffredinol ddechrau Mai.
Yn ôl Sian Hughes, Morfa Nefyn: “Mae hi’n anrhydedd lwyr cael fy ethol gan drigolion Morfa Nefyn ac Edern i’w cynrychioli ar Gyngor Gwynedd. Diolch o waelod calon i’r trigolion lleol ddaeth allan i fwrw’i pleidlais a dangos eu cefnogaeth i mi.
"Buodd hi’n ymgyrch bositif a dwi’n ddiolchgar iawn i’r tîm lleol sydd wedi bod wrthi’n fy nghynorthwyo dros yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys y cyn gynghorydd dros y Ward, Liz Saville Roberts, sydd bellach yn Aelod Seneddol prysur.
"Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i ddechrau ar y gwaith ac ymuno a thîm Plaid Cymru Gwynedd sy’n arwain y Cyngor. Fy ngobaith fydd cynrychioli trigolion fy ardal a chydweithio â nhw i ddod â llewyrch i’r ardal."
Yn ôl Arweinydd Grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Rydym yn llawenhau bod Cynghorydd ifanc brwdfrydig yn ymuno â chriw Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd i gynrychioli rhai o drigolion Llŷn. Mae pobl Morfa Nefyn ac Edern wedi rhoi eu hymddiriedaeth yn Siân Hughes, ac fel merch leol, bydd yn sicr o ddod â phofiad o’r maes iechyd, anableddau a phlant a phobl ifanc gyda hi i’r Cyngor.
“Mae hi’n ferch ei milltir sgwâr sy’n adnabod yr ardal a’i phobl tu chwith allan, felly’n sicr o weithio’n ddi-flino dros ei chymuned. Edrychwn ymlaen at ei chroesawu at dîm Plaid Cymru a chydweithio â hi yn ei rôl fel Cynghorydd Sir.
“Mae’n gyfnod heriol i lywodraeth leol oherwydd toriadau dybryd i wasanaethau cyhoeddus ddaw gan y Torïaid yn San Steffan. Er gwaetha’r caledi, yma yng Ngwynedd rydym yn parhau yn uchelgeisiol dros ein trigolion, gan geisio sicrhau bod Gwynedd yn parhau yn lle da i fyw, gweithio a mwynhau,” meddai.
Bydd gan Plaid Cymru bellach 38 cynghorydd, mwyafrif clir, wrth gynrychioli pobl Gwynedd yn y Cyngor.