Mwy o Newyddion
Malais yr UE tuag at Wlad Groeg yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd Prydain yn gadael
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi rhybuddio y gallai’r ymdeimlad o falais yr UE tuag at bobl Groeg arwain at adwaith yn y DG a chynyddu’r perygl y bydd Prydain yn gadael yr undeb.
Yr oedd Leanne Wood yn siarad ar raglen Sunday Politics y BBC wrth i arweinwyr yr UE ymgynnull mewn uwch-gynhadledd i drafod y cynigion diweddaraf am argyfwng ariannol Groeg.
Dywedodd Leanne Wood: “Ers yr argyfwng ariannol yn enwedig, mae’n ymddangos bod gan yr UE fwy o ddiddordeb mewn diogelu buddiannau corfforaethau trwy fesurau fel TTIP a’r sefydliadau ariannol, yn hytrach na lles ei dinasyddion. Rhaid lleddfu’r frwydr dorcalonnus a ddioddefodd pobl Groeg dros y pum mlynedd diwethaf yn awr.
“Rhaid i’r UE fod yn fwy dyngarol a rhoi’r amser angenrheidiol i bobl Groeg ddod atynt eu hunain yn economaidd ac yn gymdeithasol. Nid yw o fudd i neb deimlo mwy o loes yng Ngwlad Groeg nac i bethau ddymchwel ym Mharth yr Ewro.
“Mae o fydd i bawb yng Ngroeg a gweddill yr UE ddod i gytundeb dros y penwythnos. Ond rwy’n ofni y gallai’r ffordd mae rhai o aelod-wladwriaethau’r UE a’r Comisiwn wedi ymddwyn tuag at Wlad Groeg danseilio hyder a dadleuon ymngyrchwyr Ie yn y DG. Rhaid ail-gyflwyno Ewrop gymdeithasol, fel y gallwn ymgyrchu dros sefydliad a adeiladwyd ar undod a chyfeillgarwch yn hytrach na malais.
“Barn bendant Plaid Cymru yw ei fod o fudd i genedl y Cymru aros yn yr UE. Mae pobl a chymunedau yma, yn ogystal â’n busnesau, yn elwa o aelodaeth yr UE. Ond fe hoffwn i Ewrop ddychwelyd i’r Ewrop gymdeithasol fel yr arferai fod. Ewrop sydd wedi sicrhau safonau uchel yn y gweithle ac amodau gwaith teg i ddinasyddion. Ewrop sydd yn dod ynghyd i wynebu her enfawr newid hinsawdd a datrys anghydfod, ynghyd â hawliau defnyddwyr.”