Mwy o Newyddion
Y Gyllideb am gynyddu'r bwlch cyfoeth ac anghyfartaledd
Mae Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi ymateb i Gyllideb y Canghellor drwy rybuddio fod degau o filoedd o weithwyr yng Nghymru yn parhau i fod wedi eu dal mewn economi incwm-isel.
Dywedodd Mr Edwards y byddai’r toriadau i gredydau treth yn effeithio tua 120,000 o deuluoedd Cymreig, gan eu gyrru i ‘dlodi mewn-gwaith’ a fyddai ond yn cael ei adfer gan gyflog byw go iawn.
Er gwaethaf ymgais y Canghellor i godi’r isafswm cyflog a’i ail-enwi yn ‘Gyflog Byw Cenedlaethol’, bydd incwm pobl ar gyflogau isel yn parhau i gael eu taro gan doriadau i gredydau treth.
Dywedodd Mr Edwards: “Mae’r Gyllideb hon yn cynyrchioli’r bennod ddiweddaraf yn ymdrechion y Toriaid i ail-ddiffinio rôl y Wladwriaeth. Cyhoeddodd y Canghellor £37bn o doriadau ond dim ond £17bn gafodd eu clustnodi.
“Bydd y toriadau lles o £12bn a gyhoeddwyd yn costio dros £500m y flwyddyn i’r economi Gymreig, gyda thoriadau i gredydau treth yn debygol o gosbi miloedd o deuluoedd mewn gwaith yng Nghymru.
“Yr unig ffordd o adfer hyn yw i roi stop ar sybsideiddio cyflogau isel, a deddfu i sicrhau fod gweithwyr yn derbyn cyflog byw go iawn – ymrwymiad allweddol i Blaid Cymru.
“Ni fydd pobl yn cael eu twyllo gan eiriau gwag y Canghellor – dim ond isafswm cyflog tipyn uwch yw’r ‘Cyflog Byw Cenedlaethol’ newydd. Nid yw’n gyflog byw go iawn o bell ffordd a nid yw’n gwneud yn iawn am y difrod a wneir gan y toriadau i’r credydau treth.
“Mae’r cap budd-daliadau rhanbarthol hefyd yn bygwth cynsail peryglus a all arwain at fudd-daliadau rhanbarthol. Byddai hyn yn gorfodi pobl Cymru i gyfranu yr un faint a phawb arall ond derbyn llai yn y pen draw, gan greu getos o gyflogau isel, diffyg gwaith a diffyg cyfleon.
“Mae hi’n hen bryd i Lywodraeth Lafur Cymru roi’r gorau i laesu dwylo ac i gymryd pwerau creu-swyddi o afael y Toriaid yn San Steffan.
“Dim ond bryd hynny y gallwn ni greu Cymru ble fo cyfiawnder cymdeithasol a ffyniant economaidd yn gyfarwydd i bawb.”