Mwy o Newyddion
Rebecca Evans i serennu yn Proms yn y Parc
Bydd Rebecca Evans, y soprano operatig o Gymru, yn disgleirio o flaen cynulleidfa o ddilynwyr cerddoriaeth yn nigwyddiad Proms yn y Parc y BBC eleni.
Mae'r gantores o Bontrhyd-y-fen ger Castell-nedd, sydd wedi ennill Gwobr Grammy, wedi swyno cynulleidfaeodd yn Ewrop ac yn America gyda'i dehongliadau trawiadol o rolau megis Susanna (The Marriage of Figaro) ac Adele (Die Fledermaus).
Roedd y gynulleidfa wrth ei bodd yn Proms yn y Parc Abertawe yn 2008 pan rannodd Rebecca'r llwyfan ag Alfie Boe.
Meddai Rebecca: 'Mae perfformio ym Mharc anhygoel Singleton gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, sydd yr un mor anhygoel, yn brofiad cyffrous. Mae'r wefr o gael cynulleidfa Gymreig frwdfrydig o'm blaen a cherddorfa symffonig lawn y tu ôl i mi yn sicr o greu noson i'w chofio ac rwy'n edrych ymlaen.'
Bydd y seren o Gymru yn perfformio gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, dan arweiniad Gareth Jones.
Gareth, a aned yng Nghastell-nedd, oedd sefydlydd a Chyfarwyddwr Cerdd Sinfonia Cymru, ac ef bellach yw'r Prif Arweinydd ac mae wedi arwain mewn tai opera, mewn cyngherddau ac mewn gwyliau ym mhedwar ban byd.
Gan ychwanegu at y wledd Gymreig, Alex Jones, sy'n wreiddiol o Rydaman, a Tim Rhys-Evans, arweinydd Only Men Aloud fydd yn gyfrifol am gyflwyno'r noson anhygoel hon sy'n cael ei chefnogi gan Ddinas a Sir Abertawe.
Meddai Michael Garvey, Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: 'Bob blwyddyn, rydyn ni - Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymru - yn hynod o falch o gynrychioli'r genedl yn Nhymor Proms y BBC yn y Royal Albert Hall.
"Ni fydd 2015 yn eithriad, gan y bydd ein Corws yn perfformio ar y noson agoriadol, bydd perfformiadau arbennig dan arweiniad y Prif Arweinydd,Thomas Søndergård, yn cynnwys y ddau Brom Deg Darn a llu o artistiaid anhygoel.
"Mae Proms yn y Parc yn ffordd ardderchog o ddod â'r tymor i ben, gan ddod â hud y Proms yn ôl i Gymru ac ymuno yn y dathliadau ledled y DU."
Gwahoddir pawb sy'n hoff o gerddoriaeth i ddod â'u picnics a'u baneri gyda nhw i ddathlu'r cyngerdd awyr agored hwn. Penllanw'r noson fydd y cydganu traddodiadol, a fydd yn cynnwys cadwyn o alawon o Sound of Music eleni, gan ddathlu Noson Olaf y Proms gyda pharciau ledled y DU.
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad a gefnogir gan Gyngor Abertawe ac a gynhelir ddydd Sadwrn, 12 Medi, ar gael yn awr. Mae tocynnau ymlaen llaw i oedolion yn £10 yn ystod mis Gorffennaf a bydd y pris yn codi i £12 ar 1 Awst tan y diwrnod cyn y digwyddiad a £15 ar y diwrnod. Caiff plant dan 12 oed sydd gydag oedolyn fynediad am ddim.
Gall cefnogwyr y Proms fwynhau’r awyrgylch gartref hefyd, oherwydd bydd BBC Radio Wales yn darlledu’n fyw o Barc Singleton, neu ar iPlayer drwy gyfrwng bbc.co.uk/radiowales.
I gael y newyddion diweddaraf am ddatblygiadau’r digwyddiad, ac i brynu tocynnau, ewch i bbc.co.uk/promsinthepark