Mwy o Newyddion
‘Alga, nid carthion’ ar rai o draethau Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn awyddus i dawelu meddyliau pobl ac ymwelwyr fod traethau Cymru yn lân ac yn iach, er gwaetha ymddangosiad o ewyn sydd i’w weld ar y dŵr a’r traethau mewn rhai mannau.
Yn ddiweddar, cafodd CNC sawl adroddiad gan bobl a oedd yn pryderu fod yna garthion neu slyri ar y traeth neu’r dŵr, mewn llefydd fel Aberystwyth, Pentywyn a West Angle.
Cafodd y rhain eu ymchwilio, a gwelwyd nad oedd yn ddim byd mwy nag alga bychain yn tyfu yno’n naturiol, neu ffytoplancton, sydd yn ffynnu yn nhywydd gynnes yr haf.
Mae moroedd garw yn gallu codi y mater organig neu gwastraff o’r plankton yn y dŵr a’I throi i fewn i ewyn sydd yn gallu cael ei daflu ar draethau gan y tonnau a’r gwynt.
Yn aml, mae pobl yn camgymryd yr alga am garthion neu llygredd. Mae’r ewyn naturiol yma yn arogli ychydig fel gwymon ac ychydig yn olewog.
Yn hytrach na’i bod yn broblem, mae'r ewyn yn arwydd fod moroedd Cymru yn gynhyrchiol ac iach.
Ffytoplancton yw gwaelod y gadwyn fwyd sy'n cefnogi cyfoeth o fywyd gwyllt morol gwych, fel pysgod, adar a mamaliaid fel dolffiniaid - llawer ohononynt yn cael eu diogelu mewn safleoedd o bwysigrwydd Ewropeaidd.
Meddai Steve Morgans, Uwch-swyddog Amgylchedd yn Cyfoeth Naturiol Cymru: “Tua’r adeg yma o’r flwyddyn rydym yn cael ambell adroddiad o beth sydd yn edrych yn debyg i garthion neu llygredd ar yr arfordir.
“Rydym yn ymdrin â phob adroddiad o ddifrif, a phan fo modd yn cynnal profion i ddarganfod beth ydyw.
“Ond fel arfer, er fod golwg annymunol arno, alga yn hytrach na charthion ydyw bron bob tro – rhywbeth nad yw’n niweidiol.
“Rydym yn annog pawb i roi gwybod inni am bethau a allai fod yn arwydd o lygredd ar draethau yng Nghymru, a byddwn yn parhau i ymchwilio i bob adroddiad.
"Gall pobl gysylltu â ni trwy ffonio ein llinell argyfwng: 0800 807060."
I gael mwy o wybodaeth am ansawdd dŵr unrhyw un o draethau Cymru, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru a chwiliwch am ‘dŵr ymdrochi’