Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Gorffennaf 2015

Cadair Bardd yr Haf yn dychwelyd i Ddyffryn Nantlle

Bydd cyfle prin i weld Cadair Bardd yr Haf yn Neuadd Goffa Penygroes rhwng 1 a 2pm ddydd Sadwrn, Gorffennaf 11eg, ymysg creiriau eraill y bardd. Daw'r gadair o'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a'r creiriau eraill o Amgueddfa Bangor.

Nid yw'r gadair wedi bod yn ei chynefin ers blynyddoedd lawer. R.Williams Parry a'i henillodd yn Eisteddfod Bae Colwyn 1910. Gosodwyd arwydd yn ddiweddar yn Nyffryn Nantlle yn nodi'r fan lle penderfynodd y bardd i anfon awdl yr Haf i gystadleuaeth y Gadair.

Fore Sadwrn, bydd cyfle i fynd ar daith gerdded i Fynydd Cwm Dulyn, lle gwelodd R.Williams Parry y llwynog. Yn y pnawn, bydd Karen Owen yn tywys taith gerdded arall i gyfeiriad Talysarn. Gyda'r nos, Sam Roberts, yr anturiaethwr o Gaernarfon fydd yn cael ei holi yn y Neuadd Goffa.

Trefnir y cyfan gan Dyffryn Nantlle 2020 i ddathlu etifeddiaeth lenyddol y dyffryn.

Rhannu |