Mwy o Newyddion
Torri credydau treth yn ergyd drom i deuluoedd mewn gwaith
Mae Jonathan Edwards AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys, wedi beirniadu cynlluniau’r Canghellor i dargedu pobl mewn gwaith drwy dorri credydau treth, fel y mae disgwyl iddo gadarnhau yn y Gyllideb Frys yfory.
Cyfeiriodd Mr Edwards at ffigyrau sy’n dangos fod oddeutu 120,000 o deuluoedd/dai yng Nghymru sy’n derbyn credydau treth ar hyn o bryd, gan olygu y bydd incwm teuluoedd ledled y wlad yn gostwng os na fydd cyflog byw yn cael ei gyflwyno.
Ychwanegodd fod y cam i dorri credydau treth yn “gwbl wrthgynhyrchiol” ac yn golygu fod honiad y Toriaid eu bod ar ochr gweithwyr Prydain bellach yn destun sbort.
Dywedodd Mr Edwards: “Bydd ymosodiad y Toriaid ar bobl mewn gwaith yn drychinebus i’r economi Gymreig.
“Mae credydau treth yn ffynhonell hanfodol i filoedd o deuluoedd Cymreig sydd yn cael trafferth byw ar eu cyflogau isel.
“Bydd y cynlluniau y mae disgwyl i’r Canghellor eu cadarnhau yn y Gyllideb fory yn ergyd drom i’r rhai sy’n dibynnu ar y taliadau hyn.
“Wrth gwrs, y prif reswm fod credydau treth yn angenrheidiol yw’r ffaith fod y llywodraeth wedi methu cymell busnesau i dalu’r cyflog byw.
“Mae Plaid Cymru eisiau cyflwyno cyflog byw i bawb erbyn 2020. Gall hyn godi £2.1bn mewn treth ac arbed tua £1.1bn mewn credydau treth.
“Yn anffodus, mae cynlluniau’r Canghellor Ceidwadol yn rhai cwbl wrthgynhyrchiol fydd yn arwain at fwy o dlodi ac sy’n golygu fod honiad ei blaid o fod ar ochr gweithwyr Prydain bellach yn destun sbort.
“Gyda Llafur eisoes yn cefnogi sawl agwedd o’r gyllideb Doriaidd, mae Plaid Cymru yn benderfynol o ddangos gwrthwynebiad go iawn i gynlluniau niweidiol llywodraeth San Steffan.”