Mwy o Newyddion
A yw'n glefyd coeliag?
Mae Coeliac UK, yr elusen genedlaethol ar gyfer pobl â chlefyd coeliag, yn gobeithio cyrraedd pobl sy'n byw gyda chlefyd coeliag yng Nghymru ond heb gael diagnosis, gyda'u digwyddiad wythnos o hyd yn y brifddinas, Caerdydd yr wythnos nesaf.
Mae hanner miliwn o bobl yn y DU hefo clefyd coeliag ond heb gael diagnosis ac mae Coeliac UK yn dod a’u hymgyrch deithiol 'A yw'n glefyd coeliag?' i ddinasoedd ar hyd y DU mewn ymgais i gynyddu cyfraddau diagnosis.
Caerdydd yw'r trydydd gyrchfan ar gyfer y digwyddiad ers i'r ymgyrch dwy flynedd gael ei lansio ym mis Mai gan yr actores a noddwr Coeliac DU, Caroline Quentin. Gan amlygu rhai o symptomau mwyaf cyffredin clefyd coeliag, clefyd awtoimiwn yn gysylltiedig i glwten, mae’r ymgyrch yn annog pobl sy'n profi symptomau i ofyn i'w hunain, a yw'n glefyd coeliag?
Bydd y digwyddiad Coeliac UK wedi’i leoli ar Stryd y Frenhines y tu allan i Arcêd y Frenhines yng nghanol dinas Caerdydd o ddydd Mawrth 14 Gorffennaf tan ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf, ac yn agored rhwng 10:00 a 17:00 bob dydd.
Mae un o bob 100 o bobl yn y DU yn dioddef o glefyd coeliag, gyda nifer yr achosion yn codi i un o bob deg i aelodau agos o'r teulu. Fodd bynnag, mae ystadegau cyfredol yn dangos mai dim ond 24% o'r rhai sydd â'r cyflwr yn y DU sydd yn cael diagnosis, gyda'r ffigwr yn gostwng i ddim ond 22% yng Nghymru.
Mae clefyd coeliag yn glefyd awtoimiwn difrifol pan mae system imiwnedd y corff yn niweidio leinin y coluddyn bach pan fo glwten, protein a geir mewn gwenith, barlys a rhyg, yn cael ei fwyta. Nid oes gwellhad a dim meddyginiaeth; yr unig driniaeth yw deiet sy'n rhydd o glwten am oes. Os na chaiff ei drin, gall clefyd coeliag arwain at nifer o gymhlethdodau, gan gynnwys osteoporosis ac mewn achosion prin hyd yn oed canser y coluddyn bach.
Mae Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru, Aelod Cynulliad Ynys Môn a’r un sy’n arwain ar ddiagnosis a chefnogaeth ôl-ofal ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol ar glefyd coeliag a herpetiformis dermatitis, yn cefnogi’r digwyddiad yng Nghaerdydd.
Dywedodd: "Mae'n ofnadwy fod cymaint o bobl yn dal i fod heb ddiagnosis a dyna pam ei bod yn wych gweld Coeliac UK yn mynd ati i estyn allan i godi mwy o ymwybyddiaeth o'r cyflwr. Yr wyf yn annog unrhyw un sy'n credu y gallent fod yn dioddef o symptomau i ymweld â'r stondin i gael gwybod mwy am y cyflwr."
Bydd arbenigwyr o'r elusen wrth law ar y stondin i drafod symptomau ac yn rhoi cyngor ar sut i gael diagnosis. Bydd profion ar gyfer clefyd coeliag ar gael yn y digwyddiad ar gyfer y rhai a geir i fod yn arbennig mewn perygl. Bydd cymorth a chyngor ar fyw heb glwten hefyd ar gael, gan gynnwys cyfle i siarad â phobl o grwpiau cymorth leol sydd wedi cael diagnosis ac ar ddeiet heb glwten.
Yn ogystal â'r digwyddiad, mae'r ymgyrch 'A yw'n glefyd coeliag?' yn estyn allan i'r hanner miliwn o bobl yn y DU sy’n byw gyda chlefyd coeliag a heb gael diagnosis trwy ddarparu gwybodaeth mewn meddygfeydd teulu, ar hysbysebion radio a digidol, ar y cyfryngau cymdeithasol, ac i weithwyr gofal iechyd proffesiynol er mwyn adnewyddu eu gwybodaeth am y cyflwr a'i symptomau.
Rhan annatod o'r ymgyrch yw’r asesiad ar-lein cyntaf yn y DU ar gyfer clefyd coeliag ar wefan yr ymgyrch, www.isitcoeliacdisease.org.uk. Yn seiliedig ar ganllawiau NICE, mae’r asesiad yn rhoi mwy o hyder i bobl i ofyn am gyngor meddygol pellach gan eu meddyg teulu. Ar ôl cwblhau'r asesiad, byddant yn derbyn e-bost gyda'r canlyniadau a fydd yn dangos a yw eu symptomau o bosibl yn gysylltiedig â chlefyd coeliag.
Mae miloedd o bobl eisoes wedi gwneud yr asesiad ar-lein ers i'r wefan gael ei lansio ym mis Mai eleni gyda 80% yn derbyn argymhelliad i weld meddyg teulu. Dylai unrhyw un sy'n mynychu'r digwyddiad allu cwblhau fersiwn papur o'r asesiad a mynd a’r canlyniadau hefo nhw ar gyfer eu hymweliad nesaf at y meddyg teulu, os mae’n dangos bod angen ymchwilio ymhellach.
Mae symptomau allweddol a achosir gan glefyd coeliag yn cynnwys: pyliau aml o ddolur rhydd, poen yn y stumog a chramp, wlserau rheolaidd yn y geg, blinder parhaus, llawer o wynt a stumog yn chwyddo, cyfog a chwydu, ac anemia heb eglurhad.
Dywedodd Sarah Sleet, prif weithredwr Coeliac UK: "Gyda hanner miliwn o bobl sy'n byw gyda chlefyd coeliag heb gael diagnosis mae'n rhaid i ni gymryd camau radical i droi’r sefyllfa erchyll hwn o gwmpas.
"Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yng Nghaerdydd yn helpu llawer o bobl sy'n dioddef o symptomau ac yn eu rhoi ar lwybr i ddiagnosis er mwyn osgoi cymhlethdodau iechyd tymor hir.
"Neu, os ydych yn gallu dod i'r stondin, os gwelwch yn dda gwiriwch eich symptomau trwy ein dull asesu ar-lein, ac os ydych yn credu efallai fod gennych glefyd coeliag, ewch at eich meddyg a gofyn am brawf gwaed ond peidiwch â rhoi'r gorau i fwyta glwten tan i chi gael eich profi neu ni fydd profion hanfodol dilynol yn gweithio.'