Mwy o Newyddion

RSS Icon
07 Gorffennaf 2015

S4C: Llythyr brys at y Llywodraeth am y gyllideb

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi mynegi pryder am oblygiadau'r Gyllideb i S4C yn dilyn adroddiadau y bydd y BBC yn gyfrifol am ariannu trwyddedau teledu yn rhad ac am ddim i bobl dros 75 mlwydd oed.

Yn dilyn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ddoe: "Mae'r sylwadau prynhawn yma yn achosi llawer o bryder. Dyw cyflwyno mwy o doriadau i S4C ddim yn opsiwn."

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale a anfonwyd yn gynharach yn y dydd, ysgrifennodd Jamie Bevan: "Yn ôl yn 2010, gwnaed penderfyniad ynghylch ariannu S4C heb unrhyw ymgynghori â phobl Cymru na Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

"Fel y gwyddoch, gwnaed toriad o 93% i'r grant gan y Llywodraeth i'r sianel, a hyd yn oed o ystyried cyfraniad ariannol drwy'r ffi drwydded, bu toriad o tua 40% i gyllideb y sianel dros y pum mlynedd diwethaf.    

"Pryderwn yn fawr fod y gyllideb ddydd Mercher eto yn mynd i gael sgil effaith ar S4C nas trafodwyd ymlaen llaw gyda phobl Cymru. Erfyniwn arnoch i sicrhau nad oes newidiadau i gyllideb na strwythurau S4C heb ymgynghoriad llawn.

"Nid sianel gyffredin yw S4C, ond darlledwr a sefydlwyd gan ymgyrch dorfol gyda nifer o bobl yn aberthu eu rhyddid i ddod â hi i fodolaeth. Tra bod y cyfryngau Saesneg dros y 20 mlynedd diwethaf wedi tyfu'n sylweddol, mae siaradwyr Cymraeg ar draws Prydain yn parhau i orfod dibynnu ar un sianel yn unig.   

Rhannu |