Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Gorffennaf 2015

Penodi penseiri i ddylunio canolfan S4C Yr Egin

Daeth datblygiad Canolfan S4C Yr Egin ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin gam yn nes gyda phenodi’r tîm o benseiri a pheirianwyr a fydd yn dylunio’r adeilad.

Canolfan S4C yr Egin yw enw’r Ganolfan a fydd yn bencadlys i S4C yng Nghaerfyrddin yn ogystal ag ystod o gwmnïau creadigol a grwpiau cymunedol a fydd yn rhannu lleoliad â’r Sianel mewn adeilad eiconig a chynaliadwy.

Penodwyd penseiri i fwrw ymlaen â gweledigaeth y Brifysgol a’r Sianel ar gyfer y datblygiad yn dilyn proses dendro gystadleuol. Cynnig ar y cyd rhwng Rural Office for Architecture yng ngogledd Sir Gaerfyrddin a BDP (Building Design Partnership), cwmni rhyngwladol o benseiri, peirianwyr a dylunwyr, oedd yr un a lwyddodd i gipio’r datblygiad y bu cryn ddiddordeb ynddo.

Meddai’r Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol, Gwilym Dyfri Jones yn PCYDDS: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn ac rydyn ni’n falch dros ben o gael gweithio gyda thîm o benseiri sydd â gwreiddiau lleol cryf yn ogystal ag enw da rhyngwladol. Mae ein gweledigaeth ar gyfer y prosiect yn gofyn am yr atebion creadigol gorau i’r adeilad i ddarparu i’r Sianel a’n partneriaid y cyfleusterau gorau oddi mewn i eco-system ysbrydoledig a chreadigol."

“Mae Canolfan S4C Yr Egin yn deillio o weledigaeth gyffrous, feiddgar a thrawsnewidiol. Wrth ddod ag ystod o ymarferwyr creadigol, digidol a diwylliannol at ei gilydd yn yr un adeilad, bydd cyfle i gydleoli ystod o sgiliau a doniau i gyfnewid gwybodaeth, arloesi a chreu cyflogaeth. Bydd Canolfan S4C Yr Egin yn brif sefydliad i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a bydd yn dod â bri cenedlaethol a rhyngwladol i PCYDDS, S4C a’n partneriaid. Mae penodi ROA a BDP i gydweithio â ni ar yr adeilad yn gam cadarnhaol i’r cyfeiriad hwn."

Meddai Niall Maxwell, o ROA: “Mae BDP a ROA wrth eu bodd eu bod wedi’u penodi i ddylunio Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

“Prosiect cydweithredol yw hwn rhwng brand byd-eang, BDP, a phractis creadigol lleol ROA sy’n galluogi sefydliad o dros1000 o bobl sydd wedi ennill gwobrau lu, gyda strwythur rhyngddisgyblaethol, i gydweithredu â phractis a sefydlwyd yng Nghaerfyrddin ers degawd, gan gyflogi tîm talentog o benseiri, gyda phortffolio o brosiectau gwledig sydd wedi ennill gwobrau.

“Yn cyfateb i’r cydbwysedd rhwng profiad BDP a’r gallu maent wedi ei ddangos i gyflawni cynlluniau, mae gwybodaeth leol ROA a’i safonau dylunio uchel, a’i allu i gyflawni yn unol â safonau gwasanaeth uchel iawn BDP. Bydd y prosiect yn helpu i gadw a chreu swyddi proffesiynol lleol ac yn hyrwyddo gwaith dylunio o ansawdd uchel yn y rhanbarth.

“Mae’r prosiect yn rhoi cyfle i’r tîm dylunio weithio yng Nghaerfyrddin, yn ardal ddiwylliannol Stryd y Brenin, ger Yr Atom, canolfan Gymraeg newydd PCYDDS. Trwy’r presenoldeb hwn, bydd modd i’r gymuned ddilyn hynt y prosiect a deall y cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr adeilad eiconig hwn; gan roi cyfle i ddathlu creadigrwydd, iaith a hunaniaeth Cymru wrth ddarparu ar yr un pryd ar gyfer cynhwysiant ac ymgysylltu cymunedol”.

Meddai Cyfarwyddwr Ad-leoli a Phrosiectau S4C, Garffild Lloyd Lewis: “Pleser o’r mwyaf yw gweld y prosiect hwn yn symud ymlaen wrth i ni edrych ymlaen at adleoli pencadlys S4C i Gaerfyrddin yn 2018. Mae’n wych gweld bod cwmni lleol wedi llwyddo i sicrhau rôl mor amlwg, mewn partneriaeth â brand byd-eang ar y prosiect hwn. Nod S4C erioed fu sicrhau effaith economaidd ac ieithyddol hirdymor gadarnhaol yn yr ardal, ond rydym yn falch dros ben o glywed y bydd y prosiect adeiladu mwy uniongyrchol hefyd yn sicrhau budd lleol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ragor o gydweithredu agos â’r Brifysgol a’i phartneriaid newydd ROA a BDP.”     

Bydd y gwaith o ddatblygu’r dyluniad yn dechrau y mis nesaf a’r dyddiad cwblhau a ragfynegir yw gwanwyn 2018.

Llun: Argraff artist o’r datblygiad.

Rhannu |