Mwy o Newyddion
Pontio'n dechrau agor ym mis Hydref
Bydd Pontio, canolfan newydd y celfyddydau ac arloesi ym Mhrifysgol Bangor, yn dechrau agor ei drysau fis Hydref gyda theithiau o amgylch yr adeilad a chyfres o ddigwyddiadau blasu a fydd yn galluogi ymwelwyr i brofi'r cyfleuster newydd.
Bydd y cyfnod hwn o 'agor fesul cam' yn gyfle i arbrofi ag amrywiaeth o fathau o ddigwyddiadau a gosodiadau technegol, cyn i raglen weithgareddau benodol ddechrau o fis Rhagfyr ymlaen.
Meddai'r Athro Jerry Hunter o Brifysgol Bangor: "O fis Hydref cynhelir nifer o ddigwyddiadau blasu, yn amrywio o deithiau tywys, perfformiadau artistig, digwyddiadau arloesi, a phrofi'r ddarpariaeth arlwyo fydd ar gael, yn ogystal â pheth dysgu academaidd a fydd yn digwydd yn ystod semester yr hydref.
"Bydd y teithiau a'r digwyddiadau blasu'n gyfle gwych i bobl ddod i gael golwg ar y cyfleuster hynod gyffrous ac unigryw yma. Cynhelir y teithiau, fydd yn rhad ac am ddim, o ganol mis Hydref ymlaen; gellir sicrhau eich lle arnynt o ganol Medi naill ai drwy wefan Pontio neu drwy ffonio'r swyddfa docynnau."
"Mae hwn yn adeilad mawr gyda llawer o wahanol gyfleusterau, mannau perfformio a thechnolegau. Bydd agor yn raddol, fesul cam yn rhoi cyfle i'n staff ymgyfarwyddo â materion gweithrediadol cyn y byddwn yn agor yn llawn. Mae Undeb y Myfyrwyr yn bwriadu symud o'u cartref presennol i Pontio mewn pryd ar gyfer yr ail semester."
Ychwanegodd Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio: "Yn ystod y cyfnod rhagarweiniol ym mis Hydref a mis Tachwedd, byddwn yn raddol yn treialu sioeau ar raddfa fechan, digwyddiadau artistig a ffilmiau yn y brif theatr, y theatr stiwdio lai a'r sinema. Dros yr haf byddwn yn gwneud cyfres o gyhoeddiadau'n amlinellu'r digwyddiadau rhagarweiniol hyn. Mae hwn yn argoeli i fod yn gyfnod cyffrous i ni, ein cynulleidfaoedd a'n hartistiaid wrth i ni i gyd ddechrau archwilio a phrofi'r hyn sydd gan ein canolfan newydd ac arbennig i'w gynnig i ni.
"Bydd ein tymor cyntaf o ddigwyddiadau yn parhau o fis Rhagfyr 2015 tan fis Ebrill 2016, ac edrychwn ymlaen at gyhoeddi'r rhaglen lawn fis Hydref."
Bydd Arloesi Pontio Innovation (API) yn darparu'r cyfleusterau diweddaraf ym myd hyrwyddo busnes a byddant yn cynhyrfu unigolion a busnesau fel ei gilydd. Byddant hwy hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau arbrofol yn ystod y cyfnod rhagarweiniol. Bydd cyfle i roi cynnig ar ddefnyddio'r FabLab, rhan o rwydwaith rhyngwladol a sefydlwyd gan MIT. Yno ceir yr offer diweddaraf a fydd yn ei wneud yn un o'r cyfleusterau mwyaf blaenllaw o'i fath ym Mhrydain gan roi gallu i lunio prototeip o unrhyw beth bron. Bydd cyfle i ddysgu mwy am gyfryngau digidol yn y Media Lab, neu am ddylunio rhyngweithiol yn yr Hack Lab. Bydd y man cydweithio yn API, sef y Co Lab, hefyd yn sicr o'ch tanio gyda syniadau newydd.
Ychwanegodd Yr Athro Oliver Turnbull, "Bydd gan Pontio nifer o ddarlithfeydd newydd gwych a mannau dysgu cymdeithasol i'n myfyrwyr, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at gael eu defnyddio. Fel yn achos y theatr a'r sinema, byddwn yn eu defnyddio ar raddfa gyfyngedig yn y cyfnod tan y Nadolig, gan brofi eu galluoedd technegol drwy gynnal digwyddiadau dysgu ar raddfa lai."
I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ymunwch â rhestr ohebu Pontio yn https://www.pontio.co.uk/Online/