Mwy o Newyddion
Breuddwyd Rocky Horror ar y gorwel i Hayley
Mae addurnwr cacennau talentog o ganolfan ragoriaeth Bwyd Cymru wedi cael ei dewis i helpu i ddathlu’r sioe gerdd enwog The Rocky Horror Show.
Mae Hayley Roberts, sy’n gweithio fel goruchwyliwr yn siop fferm Canolfan Bwyd Cymru Bodnant yn Nyffryn Conwy, yn rhan o dîm o bob cwr o’r DU sy’n creu cacennau i ddathlu 40 mlwyddiant The Rocky Horror Show.
Daw’r anrhydedd hon ar ôl iddi gasglu tair gwobr aur am ei chynlluniau cacennau, ac enillodd glod Myfyriwr Addurno Cacennau’r Flwyddyn Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo-yn-rhos.
Mae’r fyfyrwraig 26 oed o Gonwy yn cwblhau ei phedwaredd flwyddyn o astudio yn y coleg, o dan arweiniad y frenhines patisserie, Sally Owens, sydd wedi ennill sawl gwobr, sydd hefyd yn diwtor yn ysgol goginio Canolfan Bwyd Cymru Bodnant.
“Dechreuodd fy niddordeb ar ôl i mi ddechrau gwneud cacennau, a sylweddolais fy mod yn mwynhau’r agwedd gynllunio yn fawr iawn. Penderfynais astudio crefft siwgr ac addurniadau siwgr yn y coleg, ond dim ond ers ychydig fisoedd yr wyf wedi dechrau cystadlu,” esboniodd Hayley, sydd wedi gweithio yn Bodnant yn Nyffryn Conwy ers iddo agor yn 2012.
Mae ei champweithiau crefft siwgr wedi sicrhau’r wobr Gorau yn y Sioe a dwy wobr aur yn Cake Cymru, a gynhaliwyd yn y coleg, a gwobr aur yn y sioe Cake International. Mae hefyd wedi derbyn gwahoddiad i wneud cyfraniad canolog yn yr hydref gyda chynlluniau i ddathlu sioe barodi ffuglen wyddonol Richard O’Brien.
Fel yr esboniodd Hayley: “Rwy’n rhan o gydweithrediad ar gyfer Cake International yn yr NEC yn Birmingham – mae 40 o artistiaid cacennau wedi’u gwahodd i wneud cacen arbennig i ddathlu 40 mlynedd o The Rocky Horror Picture Show.
Mae’n gweithio ar y cynlluniau yn awr ar gyfer y gystadleuaeth fawreddog, a fydd yn wahanol iawn i’w chacennau blaenorol, a oedd wedi’u hysbrydoli gan ei chariad at lyfrau’r awdur plant o Gymru, Roald Dahl.
Wrth ddisgrifio’r gacen chweochrog a enillodd y wobr aur: “Fe wnes i blaciau i’w rhoi ar yr ochr o lyfrau Roald Dahl - Fantastic Mr Fox, Charlie and the Chocolate Factory, George’s Marvellous Medicine, The BFG, The Giraffe a The Witches. Mae’r placiau wedi’u gosod i mewn yn y gacen, techneg o’r enw bas relief, sy’n edrych yn drawiadol.
“Ar ben y gacen mae Matilda gyda’i llyfrau, pob un yn llyfrau Roald Dahl - cymerodd tua 40 awr i mi wneud y gacen honno. Roedd yn llawer o waith, ond roedd yn llai.
“Roeddwn wrth fy modd gyda llyfrau Roald Dahl pan oeddwn yn blentyn – rydych yn gweld cacennau gyda Guto Gwningen a llyfrau plant eraill, ond nid ydych byth yn gweld rhai Dahl.
“Enillais y wobr Gorau yn y Sioe, Gorau yn y Dosbarth a dwy wobr aur yn Cake Cymru am fy nghread o fôr-forwyn. Ysbrydoliaeth y gacen honno oedd fy mod yn gwneud cacen i ffrind a oedd wrth ei bodd gyda’r ffilm Little Mermaid. Felly, bu’n rhaid i mi feddwl sut y byddwn yn gwneud y gacen, a lluniais y cynllun cychwynnol.
“Ar ôl gwneud y cynllun cychwynnol, dangosais ef i Sally, ac yna bûm yn gweithio arno i’w wella ar gyfer cystadleuaeth Cake Cymru, a oedd yn cael ei chynnal yng Ngholeg Llandrillo. Roeddwn yn hapus iawn pan glywais fy mod wedi ennill y wobr Gorau yn y Sioe gan y beirniaid, oherwydd dim ond y wobr arian a gefais ganddynt yn y gystadleuaeth Cake International yn yr NEC yr hydref y llynedd. Yr un panel o feirniaid oedd yn beirniadu’r ddwy gystadleuaeth, felly mae’n amlwg eu bod yn gweld fy mod wedi’i wella.
“Cymerodd lawer iawn o amser i mi wneud, tua 50 awr o waith mae’n siŵr. Cymerodd ddwy awr i mi wneud amrannau’r fôr-forwyn, a chymerodd bum awr i mi wneud ei chynffon,” meddai Hayley, a fydd yn trosglwyddo ei sgiliau mewn dosbarth cacennau bach Calan Gaeaf yn ysgol goginio Bodnant yn yr hydref.
Mae rheolwr gyfarwyddwr Canolfan Bwyd Cymru Bodnant, Chris Morton, wedi canmol buddugoliaethau Hayley.
“Mae ei chacennau’n drawiadol iawn, ac rydym yn falch iawn o’i sgiliau addurno, a’r ffordd mae’n cyfuno’r gwaith hwn gyda’i hastudiaethau yng Ngholeg Llandrillo,” meddai Chris.
“Rwy’n edrych ymlaen yn awr i weld y dosbarth y bydd yn ei addysgu yn ddiweddarach yn y flwyddyn yn yr ysgol goginio.”
Ychydig wythnosau cyn i Hayley ennill y wobr yn Cake Cymru…….Ond ni fydd yn gwahodd ei chydweithwyr i flasu’r gacen, oherwydd nid teisen felen sydd o dan y gwaith siwgr, ond polystyren.
“Mae’n golygu bod y cynllun yn para am gyfnod hwy ac mae’n ddeunydd haws i mi ei drin, er y dylai’r gacen Matilda fod yn gacen siocled oherwydd mai dyna sydd yn y llyfr.
“Fy narn olaf ar gyfer y cwrs coleg yw cacen briodas gyda thema Sinderela, a’r flwyddyn nesaf byddaf yn cystadlu mewn mwy o gystadlaethau gyda Sally. Byddwn wrth fy modd yn ennill y wobr Gorau yn y Sioe yn Cake International, dyna yw fy mreuddwyd,” meddai Hayley.
Dywedodd y cyn-ddisgybl o Ysgol Aberconwy: “Rwyf wrth fy modd yn cynllunio cacennau, ac rwy’n eithaf creadigol ac wedi astudio Celf i lefel Safon Uwch. Mae’n ddiddordeb sy’n cyfuno’n dda iawn gyda fy swydd fel goruchwyliwr yn y Siop Fferm yn Bodnant. Yn y pen draw byddwn yn hoffi addysgu crefft siwgr, felly bydd y dosbarth yn dysgu oedolion sut i wneud cacennau bach yn ysgol goginio Bodnant ar gyfer Calan Gaeaf yn fan cychwyn da.”
Mae gan Ganolfan Bwyd Cymru Bodnant ei llaethdy ei hun sy’n cynhyrchu caws a hufen iâ, yn ogystal â becws a chigydd ar y safle, sydd wedi ennill gwobrau am ei basteiod blasus. Mae yno hefyd siop win ac ystafelloedd te yn ogystal â bwyty'r Llofft Wair. I archebu lle ar y cwrs gyda Hayley, ac i gael manylion pellach am gyrsiau eraill yn yr Ysgol Goginio, ewch i bodnant-welshfood.co.uk