Mwy o Newyddion
Gwersi Cymraeg yn hedfan yn RAF Fali
Mae RAF Fali yn gefnogol iawn i aelodau o’r awyrlu ddysgu Cymraeg tra maen nhw wedi eu lleoli yn Ynys Môn. Dilynodd 11 aelod o’r awyrlu'r cwrs Cymraeg eleni.
Maent yn dod o bob rhan o Brydain ac yn gweld pwysigrwydd dysgu rhywfaint o Gymraeg yn ystod eu harhosiad. Maent yn gwerthfawrogi’r cyfle i gael blas ar ddiwylliant ac iaith unigryw Cymru.
Trefnwyd y gwersi gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor a darparwyd gan Grŵp llandrillo Menai.
Dywedodd David Williams, Arweinydd Sgwadron yn RAF Fali: “Mae’r gwersi a ddarparwyd ar gyfer personél RAF Fali wedi bod yn ardderchog.
"Mae ein grŵp ni yn edrych ymlaen at barhau gyda’r dysgu ym mis Medi. Mae’r iaith yn rhan bwysig o fywyd ar Ynys Môn, ac i’r rhai ohonom ni sy’n debygol o fod yn aros yn RAF Fali am gyfnod, mae’n holl bwysig ein bod yn dysgu rhywfaint o Gymraeg.
"Yn ffodus i ni mae yna ddigon o staff ar y safle sy’n siaradwyr Cymraeg ac mi rydym yn cael llawer o hwyl wrth ymarfer efo nhw. Mi fyddwn i yn annog unrhyw un sydd eisiau dysgu i fynd amdani.”
Dywedodd Carole McCombe, Swyddog Cefnogi Addysg RAF Fali ei bod wedi ei synnu ar yr ochr orau yn yr ymateb positif i’r gwersi. Mae’r gwersi Cymraeg yn llwyddiant mawr ac mae’n trefnu cyrsiau newydd eto ar gyfer y tymor nesaf.
Gwelir chwech ohonynt yn y llun gyda Sue Williams sydd yn diwtor Cymraeg i Brifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai. O'r chwith i'r dde yn sefyll y tu ôl i Sue, mae: Clare Sharp, David Williams, Geraint Kingsman, Samantha Cracroft, Nigel Hartle a Bruce Poole.