Mwy o Newyddion
Mam yn cael cymorth côr i godi arian er cof am ei merch
Bydd côr yn codi’r to er mwyn helpu mam i godi arian i’r ysbyty fu’n trin ei merch cyn ei marwolaeth drasig a hithau ond yn 40 oed.
Mae Cantorion Porth-yr-Aur yn trefnu cyngerdd sy’n cael ei noddi gan y sefydliad gofal Parc Pendine er mwyn codi arian ar gyfer yr Uned Arennol yn Ysbyty Gwynedd yn Theatr Seilo, Caernarfon, am 7:30yp ar nos Fercher 29 Gorffennaf.
Ar ôl i’w harennau fethu bu Elliw Llwyd Owen, 40 oed, merch aelod o’r côr Iola Lloyd Owen a’i gŵr Geraint, yn derbyn triniaeth dialysis yn yr Uned Arennol am wyth mlynedd.
Yn anffodus, bu farw ym mis Chwefror ar ôl dioddef trawiad ar y galon.
Dywedodd Iola, sydd â dwy ferch arall, Ffion, 42 oed, ac Awen, 36 oed, ac a fu’n rhedeg siop Gymraeg Siop y Pentan yng Nghaernarfon am 15 mlynedd cyn iddi ymddeol: “Llwyddodd y peiriant dialysis i gadw Elliw yn fyw am wyth mlynedd yn hirach nag y byddai wedi byw fel arall.
“Mae dialysis yn draenio hylif o’r corff, yn ei buro, ac yna’n ei roi yn ôl yn y corff. Mae’n costio llawer o arian - miloedd o bunnoedd.
“Dirywiodd iechyd Elliw dros y blynyddoedd. Roedd y cyflwr yn ei gwneud hi’n flinedig iawn, ac roedd yn golygu ei bod hi’n treulio llawer o amser adref oherwydd nad oedd hi’n gallu mynd allan fel pawb arall. Doedd hi ddim yn gallu mynd allan gyda’i ffrindiau. Roedd yn sefyllfa anodd iawn iddi. Roedd hi hefyd yn dioddef o diabetes.
“Byddai’n mynd am driniaeth dialysis yn yr Uned Arennol yn Ysbyty Gwynedd dair gwaith yr wythnos a byddai’r driniaeth yn cymryd pedair neu bump awr ar y tro.
“Cyn iddi fynd yn sâl roedd ganddi bersonoliaeth fywiog iawn. Roedd canu yn golygu llawer i Elliw. Enillodd gystadlaethau yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n canu mewn dau gôr ac roedd mewn band roc o’r enw Ap Ted.
“Roedd hi’n gynorthwyydd addysg gyda phlant sydd ag anghenion arbennig yn Ysgol Syr Huw Owen. Roedd hi wrth ei bodd yn y swydd honno.”
Ffurfiwyd côr Cantorion Porth-yr-Aur ddwy flynedd yn ôl er mwyn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych.
Bydd y noson yn cynnwys perfformiadau gan bedwar côr gwahanol, unawdwyr, offerynwyr a dawnswyr.
Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol Meifod ym Mhowys yn yr wythnos ganlynol.
Mae Cadeirydd Cantorion Porth-yr-Aur Sam Davies, 64 oed, yn swyddog gwybodaeth yn Siop Gofal, sef swyddfa recriwtio a gwybodaeth Parc Pendine ar y Stryd Fawr yng nghanol Caernarfon.
Cafodd y siop ei sefydlu gan fod Parc Pendine yn creu 100 o swyddi mewn canolfan ragoriaeth ar gyfer gofal dementia gwerth £7 miliwn ar safle hen ysbyty cymunedol Bryn Seiont.
Mae’r gwaith adeiladu yn mynd yn hwylus ac mae disgwyl i Ganolfan Gofal Bryn Seiont agor ym mis Medi eleni.
Dywedodd Sam: “Gobeithio bydd y cyngerdd yn dangos ein diwylliant Cymraeg ar ei orau.
“Rydym yn awyddus i godi cymaint o arian â phosibl ar gyfer yr Uned Arennol. Mae’n achos pwysig oherwydd yn Ysbyty Gwynedd maent yn rhoi gwasanaeth lleol i bobl sy’n dioddef. Mae’n rhywbeth y mae’r cleifion yn ei werthfawrogi’n fawr.
“Eleni byddwn yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn y grŵp oedran 60 oed a throsodd, felly mae’r cyngerdd hwn yn ffordd ardderchog o baratoi ar gyfer hynny.
“Bydd y rhodd o £250 gan Parc Pendine yn talu’r costau o drefnu’r cyngerdd. Er enghraifft, pethau fel rhentu’r theatr a phrynu hysbysebion. Mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr oherwydd ei fod yn golygu y bydd pob ceiniog a godwn yn mynd yn syth i’r Uned Arennol.
“Rhan o’m gwaith i yw rhannu gwybodaeth am ddatblygiad Bryn Seiont. Rwy’n cydgysylltu â phobl sy’n cynnig am swyddi gyda’r cwmni. Mae’n bwriadu creu 100 o swyddi sy’n hwb mawr i’r economi leol.
“Mae llawer wedi dangos diddordeb yn y cyfleuster. Mae yna alw am y cyfleuster hefyd oherwydd fel poblogaeth rydym yn byw’n hirach ac mae hynny’n golygu y bydd angen gofal ar fwy o bobl.”
Ychwanegodd llefarydd Parc Pendine Gwynfor Jones: “Rydym wrth ein bodd i noddi’r cyngerdd sy’n cael ei drefnu gan Gantorion Porth-yr-Aur.
“Roedd yn brofiad teimladwy clywed sut y gwnaeth yr Uned Arennol yn Ysbyty Gwynedd helpu Elliw merch Iola cyn ei marwolaeth drist, ac mae’n hynod o bwysig bod yr Uned yn cael y gefnogaeth y mae’n ei haeddu.
“Rwy’n siŵr y bydd yn noson wych o ddiwylliant Cymraeg ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at yr achlysur.”
Llun 1: Elliw Llwyd Owen
Llun 2: Sam Davies o siop Pendine Park gydag arweinydd y côr Bill Evans ac Iola Lloyd Owen, mam Elliw