Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Mehefin 2015

Galw am gronfa byw annibynnol Gymreig i warchod unigolion bregus

Mae llefarydd lles Plaid Cymru, Hywel Williams AS, wedi annog Llywodraeth Lafur Cymru i fabwysiadu’r un agwedd a’r Alban a sefydlu Cronfa Byw’n Annibynnol Gymreig i helpu miloedd o bobl anabl yng Nghymru.

Bydd y Gronfa Byw’n Annibynnol sydd wedi cynnig cymorth ariannol i bobl anabl ledled y DG ers 1988, yn cael ei chau gan lywodraeth San Steffan heddiw.

Beirniadodd Mr Williams y Gweinidog Iechyd Llafur, Mark Drakeford, am beidio gwneud digon i sicrhau fod nifer o bobl fregus yng Nghymru yn cael eu gwarchod rhag y newid hwn gan ei annog i sefydlu Cronfa Byw’n Annibynnol Gymreig, yn hytrach na chynnig dim ond datrysiad dros dro.

Dywedodd Mr Williams: “Am dros 25 mlynedd, mae’r Gronfa Byw’n Annibynnol wedi cynnig cefnogaeth ariannol i filoedd o bobl anabl ledled y Deyrnas Gyfunol.

“Mae penderfyniad llywodraeth San Steffan i gael gwared ar y cynllun hollbwysig hwn wedi wynebu gwrthwynebiad chwyrn.

“Mae hi wedi bod yn galonogol gweld rhai o’r sefydliadau datganoledig yn cymryd camau cadarn i atal effeithiau niweidiol y newid hwn. Mae llywodraeth yr Alban wedi sefydlu Cronfa Byw’n Annibynnol Albanaidd tra bod llywodraeth Gogledd Iwerddon wedi dewis yr un trywydd.

“Yn anffodus, mae Cymru’n dioddef yn sgil llywodraeth Lafur sy’n llawer rhy barod i feio’r Toriaid yn San Steffan am bopeth sy’n mynd o’i le. Tra ein bod yn croesawu bwriad y Gweinidog Iechyd i warchod defnyddwyr y Gronfa yng Nghymru rhag y toriadau am naw mis, yr hyn sydd ei angen yw datrysiad hir-dymor.

“Dyna pam fod Plaid Cymru yn annog Llywodraeth Lafur Cymru i sefydlu Cronfa Byw’n Annibynnol Gymreig ei hunan a fyddai’n cynnig sicrwydd a chysondeb i’r rhai sy’n dibynnu ar y cymorth ariannol hwn.

“Rhaid i Lywodraeth Llafur Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i warchod Cymru rhag agweddau gwaethaf y weinyddiaeth Doriaidd yn San Steffan, neu wynebu talu’n ddrud am eu methiant yn Etholiad y Cynulliad fis Mai nesaf.”

Rhannu |