Mwy o Newyddion
Conwy yw un o’r lleoedd harddaf yn Ewrop
Mae tref gaerog hynafol Conwy a’i chastell sy’n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd wedi’i dewis yn un o’r 30 lle Harddaf yn Ewrop. Conwy oedd yr unig le yn y Deyrnas Unedig i gael ei dewis ar gyfer rhestr hyrwyddo arbennig i ymwelwyr o Japan.
Roedd y cyfle i Gonwy gael ei ystyried fel un o'r 30 lle gorau yn Ewrop yn syniad a awgrymwyd gan Gymdeithas Asiantau Teithio Siapan (JATA) yn ystod cyfarfod gyda Croeso Cymru a'r swyddfa Llywodraeth Cymru Tokyo yn Japan ym mis Mawrth. Fe gafodd 157 o ymgeiswyr eu hystyried fel pentrefi Ewropeaidd hardd ac fe gafodd yr enwau eu casglu gan asiantaethau teithio, trefnwyr teithiau, byrddau twristiaeth, cwmnïau awyrennau, ac aelodau eraill o dîm Cyngor Hybu Ewrop JATA sy'n arwain y fenter hon.
Fe weithiodd swyddfa Llywodraeth Cymru yn Tokyo, Croeso Cymru a Chyngor Bwrdeistref Conwy i gyflwyno bid cadarnhaol i JATA i'w ystyried ochr yn ochr â'r cystadleuwyr eraill. Fe ddewisodd y Cyngor Hybu Ewrop 30 lle yn Ewrop a fyddai’n apelio at ymwelwyr o Siapan.
Gan ei bod ym mhlith y 30 lle harddaf, bydd Conwy’n cael elwa ar raglen farchnata gan Gymdeithas Asiantwyr Teithio Japan; VisitBritain a Team Europe. Cynhelir ymweliadau arbennig ar gyfer Cwmnïau Gwyliau, arddangosfeydd ffotograffig a seminarau i’r diwydiant yn Expo Twristiaeth Japan Medi 2015, a bydd digwyddiadau rhanbarthol eraill yn digwydd trwy gydol mis Hydref a mis Ionawr.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: "Mae’r ffaith bod Conwy’n cael y fath sylw yn newyddion gwych i’r dref - ac i Gymru gyfan. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn ffordd ragorol o ddenu ymwelwyr o farchnad gymharol newydd i Gymru, ac yn fodd inni roi’r gair ar led am yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.
"Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu mwy o ymwelwyr o Japan yn y dyfodol. Gan bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddwy o brif atyniadau Conwy, y castell a Phlas Mawr, yr wyf yn arbennig o falch gyda'r enwebiad yma! "
Cafodd Conwy ei chynnwys ar y rhestr yn dilyn gwaith caled gan Croeso Cymru i farchnata Cymru yn Japan. Bu cynrychiolaeth o gwmni teithio JTB o Japan ar ymweliad ymgyfarwyddo â Chymru, ac mae disgwyl iddynt ddod draw i Gonwy eto yn nes ymlaen y mis hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Graham Rees, Aelod y Cabinet dros Dwristiaeth, Marchnata a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Conwy: "Mae hyn yn newyddion mawr i dref Conwy, fel yr unig gyrchfan y DU ar y rhestr. Mae Conwy yn unigryw, gyda'i chastell mawreddog a'r waliau hynafol sydd mewn cyflwr da, y mwyaf cyflawn yn Ewrop, sydd amgáu tref o strydoedd coblog cul, adeiladau hanesyddol, mannau o ddiddordeb ac atyniadau.
"Nid yw’n syndod ei bod yn gymaint o atyniad i ymwelwyr ac rydym yn falch iawn o weld y dref yn denu sylw a chydnabyddiaeth ryngwladol yn y modd hwn. "