Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Mehefin 2015

ASE Plaid Cymru’n croesawu cais ariannu A55 yr UE

Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i geisio am nawdd Ewropeaidd drwy’r cynllun TEN-T er mwyn gwella coridor yr A55.

Ond beirniadodd Jill Evans yr oedi a gafwyd cyn achub ar y cyfle hwn gan atgoffa pawb ei bod wedi dod â’r mater i sylw cyhoeddus ym mis Hydref 2013.

Ar y pryd, daeth yn amlwg bod Cymru wedi cael ei gadael allan o fap blaenoriaethu buddsoddiad trafnidiaeth yr UE. Llywodraeth y DG a fynnodd hyn ac roedd Llywodraeth Cymru’n llwyr ymwybodol o’r sefyllfa.

Mae ASE Plaid Cymru wedi galw dro al ôl tro ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn Ewrop i wella isadeiledd trafnidiaeth Cymru, yn enwedig trydaneiddio rheilffyrdd.

Dywedodd Jill Evans ASE: "Croesawaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dihuno o’r diwedd i’r potensial am arian Ewropeaidd i wella ein ffyrdd a’n rheilffyrdd. Mae hi wedi cymryd amser hir ac fe gollwyd nifer o gyfleon.

"Bûm yn galw ar y Llywodraeth yn gyson i weithio gyda Chomisiwn Ewrop ar drafnidiaeth, gan gynnwys trydaneiddio’r rheilffyrdd.

"Ym mis Hydref 2013, tynnwyd Cymru oddi ar fap blaenoriaeth buddsoddi mewn trafnidiaeth yr UE. Gwnaed hyn ar gais Llywodraeth y DG a chyda gwybodaeth lawn llywodraeth Cymru. Golyga hyn bod yn rhaid i ni roi achos llawer cryfach ymlaen ar gyfer ariannu a byddaf yn rhoi fy holl gefnogaeth i’r cais yma."

Rhannu |