Mwy o Newyddion
Boddhad cleifion â gofal y GIG yn parhau i wella
Mae boddhad cleifion â’r gofal y maent yn ei gael yn y GIG yn parhau i wella, yn ôl archwiliad diweddaraf Hanfodion Gofal.
Heddiw bydd Prif Swyddog Nyrsio Cymru Dr Jean White yn lansio ymgyrch i sicrhau bod cleifion yn dal i gael eu hydradu pan fyddant yn yr ysbyty, wrth i adroddiad blynyddol Hanfodion Gofal gael ei gyhoeddi.
Cymru yw’r unig wlad yn y DU i gynnal asesiad manwl ledled y wlad o ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu. Mae’n cyfuno arolwg o brofiad y claf, arolwg staff ac archwiliad sy’n mesur y gofal a ddarperir ac yn asesu sut y mae safonau gofal yn cael eu cyflawni.
Mae’r archwiliad yn mesur ystod o safonau gofal, gan gynnwys diogelwch, lleddfu poen, atal briwiau pwysau a sicrhau bod cleifion sy’n derbyn gofal yn ysbytai Cymru’n cael cyfle i orffwys a chysgu.
Dywedodd cleifion eu bod yn hapus â’r gofal yr oedden yn ei gael i leddfu poen a chynnig cysur a dywedodd 99% eu bod yn teimlo’n ddiogel wrth dderbyn gofal yn yr ysbyty.
Cafwyd gwelliant cyffredinol hefyd yng nghanlyniadau’r archwiliad gweithredol, o gydymffurfiad o 84% yn 2013 i 88%, gyda gwelliant o 13% yn y safon cysgu, gorffwys a gweithgarwch.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford: “Nid oes unrhyw wlad arall yn y DU’n cynnal adolygiad mor fanwl ac eang o safonau gofal mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd y goal, ac rwyf yn falch o ddweud bod y canlyniadau hyn yn dangos gwelliant o bwys.
“Dangosodd adroddiad y llynedd fod angen gwella safonau ar gyfer iechyd y geg a hylendid ac nid ydym wedi llaesu dwylo - mae’r archwiliad yn adrodd gwelliant o 16%.
”Rydym yn gweithio i wella gofal i gleifion, a dyna pam rydym yn lansio ymgyrch newydd GIG Cymru heddiw ar gyfer hydradu Dŵr – Iechyd Da!”
Bydd Dr White yn ymweld â ward pedwar yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, ym Merthyr Tudful i lansio’r ymgyrch, pan fydd yn cyfarfod â staff nyrsio sy’n gweithio i sicrhau bod eu cleifion yn cael eu hydradu’n ddigonol. Bydd hyn yn helpu i reoli eu cyflyrau iechyd ac i atal niwed a thrallod pellach.
Dywedodd: “Rydym wedi gweld llawer o enghreifftiau o waith caled gan dimoedd nyrsio o ran sicrhau bod eu cleifion yn cael eu hydradu’n ddigonol. Rydym am adeiladu ar y llwyddiannau lleol hyn gyda’r ymgyrch genedlaethol hon. Mae’n hanfodol bod cleifion - yn arbennig pobl eiddil ac oedrannus yn yr ysbyty - yn cael digon o ddŵr.
“Byddwn yn treialu'r ymgyrch mewn dau ysbyty ac wedyn ei ymestyn ledled Cymru. Yn ogystal â negeseuon i esbonio pwysigrwydd sicrhau bod pobl yn cael digon o hylif, rwyf am i staff feddwl amdanynt eu hunain hefyd - mae yfed digon o ddŵr yn helpu’r gwaith o wneud penderfyniadau a darparu gofal.
“Mae adroddiad archwiliad Hanfodion Gofal yn dangos bod GIG Cymru’n parhau i wella ansawdd y gofal y mae’n ei ddarparu. Mae rhagor o waith i’w wneud ond rwyf yn falch o weld bod y canlyniadau’n dangos bod y mwyafrif o gleifion yn hapus â’r gofal y maent yn ei gael.”
Llun: Mark Drakeford