Mwy o Newyddion
Ni ddylid gadael Cymru ar ôl
Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio fod ymrwymiad Llywodraeth y DG i drydaneiddio rhwng Llundain ac Abertawe mewn cwmwl o amwysedd.
Dywedodd Jonathan Edwards AS a Gweinidog cysgodol y Blaid dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth AC, fod pobl Cymru yn haeddu eglurder dros addewidion am drydaneiddio. Fe wnaethant rybuddio fod yn rhaid i Lywodraeth y DG, wedi iddynt ddewis cadw’r cyfrifoldeb dros reilffyrdd yng Nghymru, yn awr brofi eu hymrwymiad.
Dywedodd AS Plaid Cymru Jonathan Edwards: “Ymladdodd y blaid Geidwadol etholiad diweddar San Steffan ar ymrwymiad clir i drydaneiddio lein y Great Western i Abertawe erbyn 2018. Mae’r ymrwymiad hwnnw ar goll mewn niwl o amwysedd yn dilyn datganiad heddiw. Nid yw’n glir chwaith a fydd lein y cymoedd yn cael ei thrydaneiddio yn ôl yr amserlen a addawyd.
“Mae pobl y gorllewin a’r cymoedd yn haeddu eglurder ynghylch a fydd addewidion a wnaed cyn yr etholiad yn cael eu cadw ai peidio.”
Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Rhun ap Iorwerth: “Mae Plaid Cymru yn wastad wedi cefnogi trydaneiddio ac fe fyddwn yn parhau i frwydro dros uwchraddio ein rheilffyrdd. Allwn ni ddim caniatáu i unrhyw oedi yn y de gael sgil-effaith ar ymdrechion i drydaneiddio lein y gogledd.
“Mae’r gwaith hwnnw wedi bod yn mynd rhagddo, ond heb gefnogaeth gan Lywodraeth y DG, fydd hyn ddim yn digwydd. Rhaid i ni sicrhau hefyd fod trydaneiddio lein y cymoedd yn cael ei gadw yn ôl yr amserlen.
“Bydd Plaid Cymru yn parhau i bledio’r achos dros well seilwaith i Gymru gyfan fel y gallwn gwrdd â’n potensial economaidd fel cenedl.”