Mwy o Newyddion
Cystadleuaeth ciciau cosb yn sgorio dros hosbis plant
Mae tîm hael o weithwyr gwneud trelars wedi codi £15,000 ar gyfer elusen hosbis plant – a chael hwyl yn sgorio gôls ar yr un pryd.
Cynhaliodd staff yn Ifor Williams Trailers ymgyrch codi arian i sefydliad Tŷ Gobaith / Hope House oedd yn cynnwys cyfres o gystadlaethau pêl-droed ciciau cosb yr oeddent wedi adeiladu trelar arbennig ar eu cyfer.
Mae angen i’r elusen godi £5 miliwn y flwyddyn i gynnal ei gwasanaethau hanfodol i blant sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd.
Mae gan yr elusen ddwy hosbis, sef Hope House ger Croesoswallt a Thŷ Gobaith yn Nyffryn Conwy a ddathlodd ei 10fed pen-blwydd y llynedd.
Ar hyn o bryd mae’r elusen yn helpu dros 500 o deuluoedd ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru, Sir Gaer a Sir Amwythig
Cyflwynwyd y siec ar ran Ifor Williams Trailers gan yr arweinydd tîm Geraint Jones a’r gweithwyr cynhyrchu Gareth Evans ac Emyr Jones, a gafodd hefyd eu tywys o amgylch hosbis Tŷ Gobaith.
Cynhaliwyd y gyntaf o’r cystadlaethau pêl-droed yn Eisteddfod yr Urdd yn y Bala y llynedd ac mae nifer o ddigwyddiadau eraill hefyd wedi cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn.
Yn ôl Geraint Jones, roedd yr ymweliad yn brofiad a wnaeth iddo deimlo’n “ostyngedig iawn”.
Ychwanegodd: “Mae’n wych gweld y cyfleusterau a’r hyn y maent yn ei wneud yma Mae’n lle gwych, sy’n darparu gwasanaeth sydd eu hangen yn fawr.
“Rwy’n falch ein bod wedi codi arian ar gyfer yr hosbis. Mae’n golygu llawer. Rwyf wedi gweithio yn Ifor Williams Trailers am 27 mlynedd. Rydym wedi codi swm anhygoel a phan rydym yn gwneud pethau, rydym yn gwneud pethau’n iawn.”
Roedd Gareth Evans, y mae ei wraig yn gweithio fel gofalwr yn yr hosbis, wedi ymweld â’r lle unwaith o’r blaen adeg yr agoriad swyddogol yn 2004.
“Rwy’n falch iawn ein bod wedi codi’r arian oherwydd ei bod yn elusen mor werth chweil ac mae angen pob ceiniog i gadw’r gwasanaethau i fynd.”
Adleisiwyd y teimlad gan Emyr Jones a ddywedodd bod yr ymweliad wedi “taro adref” ac wedi rhoi gwell dealltwriaeth iddo o’r hyn y mae’r hosbis yn ei wneud.
Dywedodd: “Roeddwn i’n meddwl ei fod yn mynd i fod yn fwy fel ysbyty ac nes i mi ddod yma doeddwn i ddim yn sylweddoli ei fod yn lle mor gartrefol. Mae’n wych.
“Mae’r lleoliad yn berffaith ac mae’r olygfa dros aber afon Conwy yn drawiadol. Maent yn gwneud gwaith anhygoel yma ac mae’r lleoliad yn odidog ac rwy’n siŵr fod hynny’n rhan bwysig o sicrhau naws heddychlon a thawel yr hosbis.
“Roedd yn brofiad teimladwy iawn ymweld â’r ardd y tu allan i ystafell Snowflake lle gall teuluoedd dreulio’r amser olaf gwerthfawr yna gyda’i gilydd.
“Fyddwn i ddim yn gallu gwneud y gwaith yna, mae’r bobl sy’n gweithio yma yn arbennig iawn. Rwy’n tynnu fy het i’r staff yma oherwydd dydi beth maen nhw’n ei wneud ddim yn cael ei werthfawrogi ddigon.”
Roedd uwch godwr arian Tŷ Gobaith Eluned Yaxley yn “hynod ddiolchgar” i Ifor Williams Trailers.
Dywedodd: “Mi wnaethon nhw fynd yr ail filltir unwaith eto, ac mae’r gefnogaeth rydym wedi ei gael ganddyn nhw, nid yn unig y llynedd ond dros y blynyddoedd, wedi bod yn wirioneddol wych.
“Heb bobl a chwmnïau fel Ifor Williams Trailers ni fyddem yn bodoli.
“Mae angen pob ceiniog arnom. I gynnal y ddwy hosbis, Hope House yng Nghroesoswallt a Thŷ Gobaith yng Nghonwy, mae’n ofynnol i ni godi £5 miliwn y flwyddyn.
“Rydym yn dibynnu ar gyfraniadau gwirfoddol i redeg pob un o’r gwasanaethau a ddarparwn.
“Y llynedd, er enghraifft, mi wnaethon ni benodi nyrs newydd enedigol. Roeddem yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â 30 o deuluoedd yng Ngogledd Cymru a oedd yn dioddef o enedigaethau babanod marw-anedig.
“Y llynedd mi wnaeth ein gwasanaeth ddarparu 10,000 o oriau yn y gymuned am fod llawer o’r gwaith bellach yn cael ei gwblhau allan yn y gymuned.
“Dathlodd Tŷ Gobaith ei 10fed pen-blwydd y llynedd ac mae Hope House yng Nghroesoswallt yn dathlu carreg filltir bwysig y flwyddyn nesaf, sef ei phen-blwydd yn 21ain oed.
“Bydd yn flwyddyn arbennig iawn arall o ddathlu ond mae popeth rydym yn ei wneud yn dibynnu’n fawr ar gyfraniadau cefnogwyr fel Ifor Williams Trailers a phawb arall.”
Llun: Geraint Jones, Gareth Evans a Emyr Jones o gwmni Ifor Williams Trailers yn rhoi siec i Eluned Yaxley o Dŷ Gobaith a Cane, 9