Mwy o Newyddion
Sgript Slam Gomedi
Mae S4C a BBC Radio Cymru yn bwriadu cydweithio eto eleni i ddatblygu talent ysgrifennu comedi, trwy gynnal Sgript Slam Gomedi yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015. Gobaith y prosiect hwn yw cynnig llwyfan i chwe sgript gomedi newydd, pum munud o hyd, gyda’r potensial i ddatblygu’r gwaith ymhellach ar gyfer S4C neu BBC Radio Cymru.
Bydd y sgriptiau llwyddiannus yn cael eu perfformio gan actorion proffesiynol o flaen cynulleidfa yn y Cwt Drama ddydd Mercher Awst 6ed am 12.30 gyda Caryl Parry Jones yn arwain y sesiwn.
Felly, mae S4C a BBC Radio Cymru yn galw ar awduron Cymru, boed yn awduron newydd neu brofiadol, i ysgrifennu sgript gomedi wreiddiol heb fod dim mwy na phum munud o hyd a ellid ei pherfformio gan dim mwy na thri actor. Does dim thema na ffiniau ac o’r holl geisiadau mi fydd S4C a BBC Radio Cymru yn edrych am y chwe sgript cryfaf, mwyaf doniol a chreadigol.
Y dyddiad cau yw dydd Llun,Gorffennaf 13eg a dylid anfon y sgriptiau at sgriptslam@bbc.co.uk