Mwy o Newyddion
Cregynbysgod trofannol yn fygythiad i fywyd gwyllt Prydain
Mae arbenigwyr Amgueddfa Cymru yn rhybuddio y gall rhywogaethau deufalfog (fel cregyn bylchog a wystrys) sydd wedi’u canfod ar arfordir Prydain ac Iwerddon yn ddiweddar gael effaith andwyol ar fywyd gwyllt morol.
Daw’r chwe rhywogaeth, sydd angen tymheredd môr cynnes o 22 - 26°C i atgenhedlu, yn wreiddiol o arfordir de-ddwyrain yr UDA, ac maent wedi eu cludo yma gyda sbwriel plastig.
Ers stormydd gaeaf 2014-14 mae mwy o sbwriel plastig nag arfer wedi bod yn golchi i’r lan ym Mhrydain ac Iwerddon. Yn ogystal â bod yn niweidiol i fywyd gwyllt morol, mae gwastraff plastig hefyd yn gallu cludo rhywogaethau estron i’n cynefinoedd.
Mae gwyddonwyr Amgueddfa Cymru yn pryderu y gallai’r newydd-ddyfodiaid gystadlu â rhywogaethau cynhenid, fel y wystrys bwytadwy, am gynefin a bwyd. Un o’r newydd-ddyfodiaid yw Isognomon bicolor (wystrys pwrs deuliw) sy’n dod yn wreiddiol o Florida ond sydd wedi lledaenu drwy’r Caribî hyd at foroedd Brasil, gan ddisodli’r wystrys cynhenid yno.
Dywedodd Anna Holmes, o Amgueddfa Cymru: “Cofnodwyd tymheredd môr o 20°C yng Nghernyw y llynedd. Os yw’r tymheredd yn parhau i godi gallai’r rhywogaethau trofannol yma ymsefydlu yn nyfroedd Prydain gan fygwth ein bywyd gwyllt cynhenid.”
Gall pobl helpu drwy gadw llygad am unrhyw ddeufalfiau, crancod neu wyrain (barnacles) fydd yn sownd i sbwriel plastig, a hysbysu
rafting.bivalves@museumwales.ac.uk