Mwy o Newyddion
Hwb i ymgyrch rheilffordd Aberystwyth - Caerfyrddin
Mae Elin Jones, AC Plaid Cymru dros Geredigion, wedi croesawu hwb mawr i’r ymgyrch dros ailagor y linell rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.
Yn dilyn ymgyrch gan grwp ‘Traws Link Cymru’, a chyfarfod yn Llambed rhwng Elin Jones AC, Simon Thomas AC, yr ymgyrchwyr a’r Gweinidog Trafnidiaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan ei bod am gomisiynu adroddiad cychwynol ar ddichonoldeb ailagor y cysylltiad rheilffordd, a gaewyd gan doriadau Beeching.
Cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart AC mewn llythyr i Elin Jones ei bod yn ymrwymo’r Llywodraeth i ariannu astudiaeth a fydd yn cyhoeddi ei ganlyniadau tua diwedd 2015.
Dywedodd Elin Jones, AC Plaid Cymru dros Geredigion: “Am y tro cyntaf, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu rhoi arweiniad ac adnoddau i astudiaeth ar ddichonoldeb ailagor y linell reilffordd rhwng Aberystwyth, Tregaron, Llambed a Chaerfyrddin.
“Mae’n newyddion gwych fod y Gweinidog yn comisiynu’r adroddiad, ac yn adlewyrchiad o lwyddiant ymgyrch mudiad Trawslink.
“Wrth gwrs, mae dipyn o ffordd i fynd yn yr ymgyrch, ond mae’n arwyddocaol iawn fod y Gweinidog wedi cael ei pherswadio fod hon yn syniad y dylid ei ddatblygu ymhellach.”