Mwy o Newyddion
Cofio’r rhai gladdwyd ym medd cyffredin Mynwent Llanbeblig
Mae cofeb wedi ei osod i ddynodi bedd cyffredin ym Mynwent Llanbeblig yng Nghaernarfon lle mae babanod, plant ac oedolion wedi eu claddu.
Roedd y bedd cyffredin ym Mynwent Llanbeblig sydd dan ofal Cyngor Gwynedd yn fedd ‘di-enw’ ar gyfer pobl o wyrcws Bodfan, y dref a’r ardal gyfagos a oedd ag amgylchiadau anffodus neu druenus. Claddwyd cyfanswm o 228 o bobl yn y bedd rhwng 1922 a 1961.
Yn ddiweddar, daeth pwyllgor ynghyd gan gynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd a Chyngor Tref Caernarfon sydd wedi gweithio gyda’i gilydd ar y prosiect i osod y gofeb yn y ei lle a gwneud y bedd yn un ‘gydag enw’.
Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Mae’n ysgytwol meddwl fod ymhell dros 200 o bobl wedi eu claddu yn y bedd cyffredin ym Mynwent Llanbeblig, rhai ohonynt mor ddiweddar a dechrau’r 1960au.
“Yn fabanod a plant fu farw’n rhy gynnar, i famau dibriod a fu farw wrth esgor ac eraill yn oedolion a oedd yn byw yn yr hen wyrcws yn y dref, mae’n hynod bwysig fod yna gofeb yn cael ei roi i gofio’r 228 o unigolion yma sydd wedi eu claddu yn y bedd. Rwy’n hynod falch gweld fod blodau eisoes wedi eu gosod ac rwy’n sicr y bydd y gofebfaen yn dod yn leoliad lle bydd nifer yn mynd fel arwydd o barch ac i fyfyrio am y rheini sydd yna yn gorwedd.
“Rydym yn hynod ddiolchgar o’r cydweithio sydd wedi bod ar y prosiect pwysig yma i dref Caernarfon, ac hoffwn ddatgan ein gwerthfawrogiad am y gofebfaen sydd yn rhodd gan gwmni o drefnwyr angladdau ac hefyd i Karen Owen am y gerdd gwbl addas sydd ar y gofebfaen. Mae’n deyrnged briodol iawn i’r unigolion sydd wedi eu rhoi i orffwys yn y bedd cyffredin ym Mynwent Llanbeblig.”
LLUN: Y gofebfaen sy’n nodi’r bedd cyffredin ym Mynwent Llanbeblig