Mwy o Newyddion
AS newydd Plaid Cymru yn cyflwyno araith forwynol yn San Steffan
Cyflwynodd aelod etholedig newydd Plaid Cymru yn San Steffan ac AS benywaidd cyntaf y blaid, Liz Saville Roberts, ei haraith forwynol yn y Tŷ Cyffredin ddoe.
Defnyddiodd Ms Roberts y cyfle i sôn am “harddwch naturiol” a "hanes diwydiannol” ei hetholaeth Dwyfor Meirionnydd tra’n talu teyrnged i’w rhagflaenydd Elfyn Llwyd a dreuliodd 23 o flynyddoedd yn y Tŷ.
Pwysleisiodd hi hefyd sut yr oedd cynrychiolwyr Plaid Cymru wastad wedi mynd i San Steffan gyda’r bwriad o wasanaethu buddiannau Cymru, a sut eu bod yn benderfynol o barhau i wneud hyn yn y dyfodol.
Yn ystod ei haraith, dywedodd Liz Saville Roberts AS: “Yn ddiamau mae hi’n anrhydedd – un heb gynsail yn fy nheulu i – i annerch y Tŷ hwn heddiw.
“Rwy’n ei hystyried yn fraint fod pobl Dwyfor Meirionnydd wedi buddsoddi eu ffydd ynof fi i’w cynrychioli, a byddaf yn ymdrechu i fod yn deilwng o’i hymddiriedaeth.”
Wrth dalu teyrnged i’w rhagflaenydd Elfyn Llwyd, ychwanegodd hi: “Ers fy niwrnod cyntaf yn y lle hwn, mae hi wedi bod yn amlwg fod gan aelodau a swyddogion y Tŷ feddwl mawr ohono.
“Cyfranodd Elfyn yn helaeth i wella deddfwriaeth ar gyfer dioddefwyr trais yn y cartref a stelcian. Roedd yn adfocad diflino dros hawliau cyn-filwyr. Caiff ei gofio fel un o feirniaid mwyaf chwyrn Rhyfel Irac, a alwodd am uchelgyhuddo Tony Blair; parhaodd y rôl hon wrth iddo graffu ar ymchwiliad Chilcot sydd, er mawr cywiliyd, yn parhau i fod heb ei gyhoeddi.”
Wrth siarad am ei hetholaeth Dwyfor Meirionnydd, dywedodd Liz Saville Roberts: "Ochr yn ochr â’i harddwch naturiol, mae creithiau ei hanes diwydiannol yn britho Dwyfor Meirionnydd. Roedd chwareli llechi a gwenithfaen – nifer yn parhau i gynhyrchu – yn gyflogwyr mawr.
“Er bod yn rhaid i ardal wneud y mwyaf o’i chryfderau, rhaid hefyd bod yn effro i’r gwirionedd anesmwyth fod 50% o’r bobl sydd mewn gwaith yn yr etholaeth yn cael eu talu llai na’r cyflog byw, a hynny er gwaethaf lefel diweithdra cymharol isel o 1.7%.
“Amaeth yw asgwrn cefn nifer o’n cymunedau o ran cefnogi gweithgareddau cymdeithasol a chynnal gwariant yn yr economi leol rownd y flwyddyn. Mae ffermydd teuluol ucheldir Eryri yn chwarae rhan allweddol yn cadw cydbwysedd ecolegol bregus y tirwedd.”
Daeth Ms Roberts â’r araith i glo drwy bwysleisio rôl Plaid Cymru yn San Steffan: “Mae’r mudiad cenedlaethol Cymreig wedi ei wreiddio yn fy etholaeth. Sefydlwyd Plaid Cymru yn nhref Pwllheli yn 1925. Boddwyd pentref Capel Celyn ym Meirionnydd gan Gorfforaeth Lerpwl hanner can mlynedd yn ôl.
“Taniodd hyn ymwybyddiaeth fod modd hepgor ein cymunedau, a bod yr hyn oedd yn werthfawr i ni o fawr bwys i’r pwysigion a’r pwerus. Roedd y boddi yn ymfflamychol gan sbarduno deffroad cenedlaethol yng Nghymru.
“Rydym yma heddiw, fel bryd hynny, gyda buddiannau Cymru wrth galon ein holl ymdrechion.”