Mwy o Newyddion
Pantycelyn: Gofyn i Carwyn Jones gamu i mewn
Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog Carwyn Jones yn gofyn iddo ymyrryd er mwyn sicrhau bod neuadd Pantycelyn yn aros ar agor, cyn i Gyngor Prifysgol Aberystwyth benderfynu ar dynged y safle ymhen deg diwrnod.
Ym mis Ebrill y llynedd, yn dilyn ymgyrch dorfol, addawodd y Brifysgol y byddai'n cadw'r neuadd breswyl i fyfyrwyr ar agor. Ond ychydig wythnosau yn ôl, cyhoeddodd awdurdodau'r Brifysgol y byddai'r neuadd yn cau ym mis Medi eleni, yn groes i'r addewid hwnnw.
Mae’r brifysgol wedi argymell cau’r adeilad er mwyn gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol. Y bwriad meddid yw adleoli'r myfyrwyr cyfrwng Cymraeg i lety priodol dros dro petai Pantycelyn yn gorfod cau.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog, sy'n gyn-breswylydd Pantycelyn ei hunan, meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Rwy'n ysgrifennu atoch er mwyn gofyn i chi ymyrryd er mwyn atal awdurdodau Prifysgol Aberystwyth rhag cau Neuadd Pantycelyn ym mis Medi eleni. Rydym yn croesawu eich sylwadau diweddar ynghylch pwysigrwydd y neuadd i'r Gymraeg a'ch cefnogaeth bersonol i'r ymgyrch fel un o gyn-breswylwyr y Neuadd…
"Rydych wedi cyhoeddi arian i agor canolfannau Cymraeg ar draws Cymru ... Nid oes enghraifft well na Neuadd Pantycelyn, sy'n gymuned Gymraeg sydd wedi golygu bod llawer iawn o bobl nid yn unig yn magu hyder yn eu Cymraeg ond yn dysgu'r Gymraeg o'r newydd hefyd. Yn wir, byddai'n gwbl groes i bolisi eich Llywodraeth pe bai'r neuadd yn cau.
"Mae cwestiynau i'w gofyn hefyd am ba mor briodol mae'r Brifysgol yn gweithredu, o ystyried bod brwydr i achub Pantycelyn wedi cael ei hennill yn gyhoeddus iawn yn 2014, ond bod yr awdurdodau bellach yn ceisio rhuthro argymhelliad hollol wahanol drwodd ar ddiwedd tymor a heb ymgynghori.
"Rydym yn galw arnoch felly i agor trafodaeth frys gyda'r Brifysgol er mwyn atal yr argymhelliad rhag cael ei weithredu. Ni ddylai arian cyhoeddus fynd at sefydliad os ydyn nhw'n tanseilio un o'r ychydig gymunedau Cymraeg sy'n bodoli yng Nghymru fel hyn. Erfyniwn arnoch i ymyrryd i atal penderfyniad fyddai mor niweidiol i'r Gymraeg fel iaith hyfyw.
"Mae gweithredoedd y Brifysgol yn gwbl groes i ewyllys y myfyrwyr a phobl Cymru. Rydym yn mawr obeithio y gallwch chi atal bwriad y Brifysgol a fyddai mor niweidiol i sefyllfa'r Gymraeg, nid yn unig yn lleol, ond ar lefel genedlaethol yn ogystal."