Mwy o Newyddion
Dagrau llawenydd wrth i Sonya symud i gartref llai
Roedd mam i ddau blentyn yn crïo dagrau o lawenydd wedi iddi symud i gartref sydd yn llai ac yn eco-gyfeillgar.
Sonya Pritchard yw un o denantiaid cyntaf datblygiad o naw tŷ a godwyd gan gymdeithas tai Cartrefi Conwy yn Ffordd Maesdu, Llandudno ar gôst o £1 miliwn
Mae’r gogyddes rhan amser wedi symud allan o’i chartref yn Jackson's Court, Llandudno ac wedi ymgartrefu mewn tŷ dwy ystafell wely - gynt roedd hi beunydd mewn traffethion ariannol wrth geisio gofalu am arian ar gyfer y rhent a’r gwresogi.
Fe ddaeth y symud i eiddo llai ar amser ffodus i Sonya gan ei bod yn wynebu gwaeth hunllef o fis Gorffennaf ymlaen – bryd hynny byddai’n rhaid iddi ddechrau talu treth ystafell wely ar ei hen gartref.
Gwnaed y datblygiad yn bosibl trwy bartneriaeth rhwng Cartrefi Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, roedd hyn yn ei gwneud yn haws sicrhau arian ychwanegol.
Yn ogystal â sicrhau bod y tai wedi eu hinsiwleiddio’n dda, mae cynllun Llwyn Rhianedd wedi gosod paneli solar ar y tô a chaiff dŵr glaw ei gasglu mewn tanc a’i ddefnyddio i ddwrlifo’r toiledau ar y llawr gwaelod.
Yn ôl Cartrefi Conwy, mae’r tai wedi eu dylunio i fod yn gartrefi am oes yn ogystal â galluogi rhai tenantiaid i symud i gartrefi mwy addas.
Ni allai Sonya gredu ei lwc pan glywodd ei bod yn cael tenantiaeth tŷ newydd sbon yn Llwyn Rhianedd.
Dywedodd: “Mae gen i ddau o blant. Mae fy mab, Christian, sydd yn 14 oed, yn byw gartref efo fi ac yn dal yn yr ysgol. Mae fy merch, Jade, 22 oed, yn astudio i fod yn nyrs ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl.
“Adeg gwyliau yn unig y bydd hi’n dod adref, ond bydd yn graddio eleni ac yn chwilio am gartref iddi ei hun.
"Roeddwn i bob amser yn crafu am arian ac yn gorfod benthyca arian ar gyfer y mesurydd nwy neu i roi bwyd ar y bwrdd.
“Fyddai gen i byth geiniog i’m enw a byddwn yn gorfod cymryd unrhyw waith rhan amser y gallwn ei gael er mwyn cael dau ben llinyn ynghŷd.
“Fedrai ddim disgrifio pa mor hapus ydwi - methu coelio’r peth – rydwi wedi bod yn crïo o lawenydd. Mae’r eiddo yma mewn band uwch ar gyfer treth cyngor ond rydwi’n llawer iawn gwell allan er hynny.
“Yn syth, rydwi yn arbed rhwng £30 a £40 yr wythnos ar drydan a nwy – ac mae’r rhent yn rhatach. Ac o fis Gorffennaf ymlaen fe fyddai’n rhaid i mi dalu treth ystafell wely – dyna fyddai’r hoelen olaf yn yr arch, a dweud y gwir.
“Roedd pethau yn ddigon drwg pan gyrhaeddodd Jade ei phenblwydd yn 19 gan fy mod yn colli lwfans plant a chredydau treth. Roedd hyn yn fy ngadael mewn sefyllfa ddifrifol. Roedd gen i bedair swydd rhan amser i gael digon o arian i fyw arno a hyd yn oed wedyn, yn aml iawn roeddwn yn mynd yn fyr o arian ac yn methu ag ymdopi.
“Y noson gyntaf i mi gysgu yma oedd y noson orau o gwsg ydwi wedi ei chael ers blynyddoedd. Mewn cartref gofal yr ydw i yn gweithio ond o hyn ymlaen fe fyddaf yn gweithio llawn amser yn hytrach na rhan amser – felly mae pethau yn gwella o bob cyfeiriad.
Mae Sonya wrth ei bodd gyda dyluniad y tai a’r nodweddion eco a fydd yn arbed mwy fyth o arian iddi.
Meddai: “Mae gennym baneli solar fydd yn gwneud y trydan yn rhatach a chaiff dŵr glaw ei gasglu mewn tanc a’i ddefnyddio i ddwrlifo’r toiledau ar y llawr gwaelod. Mae popeth wedi ei insiwleiddio ac mae’r tŷ mor gynnes a chartrefol.
“Mae o mor fodern ac mae pethau syml fel drysau mewnol lletach a byrddau gweithio ïs yn golygu y gallai rhywun ddal i fyw yma hyd yn oed ar ôl heneiddio a gorfod defnyddio cadair olwyn. Rydwi’n teimlo’n saff yma a dyna’r peth pwysicaf. Mae Christian wrth ei fodd hefyd – mae o’n llawer nês at ei ffrindiau yma.
“Rydwi mor ddiolchgar i Cartrefi Conwy. Fe gefais fy ngeni a’m magu yn Llandudno ac yma mae fy holl deulu yn byw. ‘Does arnai ddim eisiau byw yn unlle arall."
Dywedodd David Lowe, Swyddog Datblygu Tai Fforddiadwy Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:“Buom yn edrych ar yr angen am y tai newydd hyn. Cartrefi Conwy oedd piau’r tir a chafodd y tai eu hadeiladu trwy argymhelliad y Cyngor gyda chymorth grant oddi wrth Lywodraeth Cymru.
“Mae’r rhain yn dai ardderchog ac wedi eu hadeiladu i safon uchel – maent hefyd yn galluogi tenantiaid fel Sonya Pritchard i symud i gartref llai. Mae’r rheolau erbyn hyn yn golygu y caiff pobl eu cosbi os oes ganddynt ormod o ystafelloedd, felly mae’n bwysig helpu pobl i symud i eiddo llai pan fydd hynny’n bosibl.
“Ac wrth gwrs, rhaid cofio bod Sonya, wrth symud i eiddo llai, yn rhyddhau tŷ tair ystafell wely ar gyfer teulu sydd angen mwy o le.”
Roedd Adrian Johnson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Eiddo gyda Cartrefi Conwy, yn falch bod y cynllun wedi ei gwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb.
Meddai: “Rydwi wrth fy modd ein bod wedi gallu codi’r tai hyn mewn ardal yn Llandudno lle mae gwir angen amdanynt – mae hefyd yn dangos ein ymroddiad i gynyddu ein stoc tai.
“Mae’n braf gwybod bod y tenantiaid sydd eisoes wedi symud i mewn yr un mor fodlon gyda’r tai ag yr ydym ni.”
Llun: Sonya Pritchard gyda Linda Humphreys o Gartrefi Conwy a David Rowe, o Gyngor Bwrdeistref Sirol