Mwy o Newyddion
Dylai’r Prif Weinidog ddatrys “annhegwch” ar gyffuriau a thriniaethau
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi galw ar y Prif Weinidog Llafur i unioni’r drefn annheg ac anghyson ynghylch cael cyffuriau a thriniaethau yng Nghymru.
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yn y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd arweinydd Plaid Cymru nad yw’r system bresennol o drin ceisiadau am driniaethau am glefydau a mathau o ganser yn addas at y diben, a bod yn rhaid i gleifion weithiau symud naill ai i Loegr neu i rannau eraill o Gymru er mwyn cael triniaeth.
Nododd Leanne Wood ymhellach y byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu dewis gwell na’r Gronfa Cyffuriau Canser sydd ar waith yn Lloegr. Ni fyddai Cronfa Meddyginiaethau a Thriniaethau Newydd Plaid Cymru yn gyfyngedig i ganser, a byddai Panel Cenedlaethol ar gyfer pob arbenigedd yn ei goruchwylio, byddai’n gwneud i ffwrdd â’r loteri cod post yng Nghymru, ac yn ehangu nifer y triniaethau fydd ar gael yng Nghymru yn fwy cyffredinol.
Meddai arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Rhaid i’r Prif Weinidog dderbyn fod problem o ran cyrchu cyffuriau a thriniaethau newydd yng Nghymru, sydd yn effeithio ar fathau prin o ganser a chlefydau eraill. Rydym wedi gweld cleifion fel Mr. Irfon Williams o ymgyrch Hawl i Fyw ac eraill yn gorfod symud i Loegr, ond mae gennym enghreifftiau hefyd o bobl yn gorfod symud o fewn Cymru i ddod o hyd i driniaeth. All y rhan fwyaf o bobl ddim gwneud y naill beth na’r llall.
“Nid yw’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru eto wedi cydnabod fod problem yn bodoli gyda phobl yn gweld anghysondeb gyda mynediad at gyffuriau a thriniaeth, a bod hyn yn gadael cannoedd o gleifion yng Nghymru mewn sefyllfa enbyd.
“Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu Cronfa Meddyginiaethau a Thriniaethau Newydd. Buasem yn rhoi terfyn ar y loteri cod post yng Nghymru ac yn sicrhau y byddai modd darparu gwell ystod o driniaethau yma. Gallai’r gronfa newydd hefyd fonitro effeithiolrwydd cyffuriau nad ydynt eto wedi eu cymeradwyo gan NICE, a byddai hyn yn arwain at well a thecach system na’r un sy’n cael ei rhedeg ar hyn o bryd gan Lafur.”
Llun: Leanne Wood ac Irfon Williams