Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Mehefin 2015

Llywodraeth Cymru yn dyfarnu mwy nag £16m ar gyfer SCCau

Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews wedi cyhoeddi dros £16 miliwn i barhau i ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol.
 
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i greu cymunedau diogel a chryf yng Nghymru. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae’n ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol (SCCau) ar ben y rheini sy’n cael eu hariannu o ffynonellau eraill fel rhan o’r lefelau plismona arferol.
 
Mae cyfran o £16.8 miliwn wedi cael i’r pedwar Heddlu yng Nghymru a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig i dalu costau’r SCCau ychwanegol yn eu hardaloedd.
 
Dywedodd Leighton Andrews:
“Mae’r cyllid hwn yn fuddsoddiad sylweddol mewn diogelwch cymunedol ar adeg o bwysau digynsail ar gyllidebau’r sector cyhoeddus, ac ar gyllid yr heddlu yn arbennig.
 
“Ein nod yw gwneud cymunedau’n fwy diogel drwy leihau achosion o ymddygiad gwrth-gymdeithasol a throseddu, gan gynnwys ofn troseddu. Mae SCCau yn dra gweledol yn eu cymunedau, yn siarad â phobl, yn rhoi sicrwydd ac yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol.
 
“Maen nhw’n chwarae rhan ganolog o ran gwneud ein cymunedau’n fwy diogel, a gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy diogel.”
 

Llun: Leighton Andrews gyda SCC Neil Crowley a SCC Dan Holloway

Rhannu |