Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Mehefin 2015

Tir ym Mhont-y-pŵl â’r potensial i greu 100 o swyddi newydd

Cyhoeddodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, ddoe bod  cwmni sy’n datblygu unedau diwydiannol wedi prynu safle 16.61 erw ym Mhont-y-pŵl sydd â’r potensial i greu 100 o swyddi newydd.
 
Mae cwmni teuluol o’r enw Formaction Limited sy’n cael ei gynrychioli gan Middleton Perry wedi prynu safle oddi wrth Lywodraeth Cymru ym Mamheilad, Dyffryn Wysg,.  Mae Formaction yn prynu a datblygu adeiladau diwydiannol ar hyd a lled De Cymru.
 
Yn gynharach eleni, penododd Llywodraeth Cymru DTZ yng Nghaerdydd i ddod o hyd i brynwr allai ailddatblygu’r safle er mwyn creu swyddi.
 
Wrth gytuno i werthu’r safle, dywedodd Mrs Hart:  “Bydd y datblygiad arfaethedig yn cael effaith bositif ar yr economi leol drwy ddarparu unedau diwydiannol bach y mae galw mawr ymysg busnesau bach amdanynt.  Bydd hyn yn arwain at greu 100 o swyddi newydd.  Rydym yn gobeithio y bydd swyddi adeiladu’n cael eu creu yn sgil y datblygiad hefyd.”
 
Mae gan y safle gysylltiadau trafnidiaeth da iawn – mae’r A4042 gerllaw ac mae’n 10 milltir o Gasnewydd.
 
Dywedodd Chris Yates o dîm asiantaeth Diwydiannol DTZ yng Nghaerdydd:  “Mynegodd llawer iawn o gwmnïau ddiddordeb yn y safle hwn a phleser yw cyhoeddi y bydd y datblygwr sydd wedi prynu’r safle yn canolbwyntio ar gynnal cynllun fydd yn creu safleoedd busnes o ansawdd da i amrywiaeth o denantiaid.
 
Ychwanegodd:  “Gwelodd y prynwr fod prinder mawr am stoc adeiladu newydd yn Ne Cymru ac roedd yn ystyried y safle fel cyfle gwych i gynnal safleoedd masnachol mewn ardal y mae prinder mawr am safleoedd modern.  Mae hyn yn arwydd positif i farchnad ddiwydiannol De Cymru sy’n parhau i dangos arwyddion ei fod yn yn dod at ei hun wedi’r dirwasgiad.”
 
Ychwanegodd James Perry o Middleton Perry:  “Mae Formaction yn paratoi ar gyfer cam cyntaf y datblygiad fydd yn cynnwys adeiladu dau deras o unedau diwydiannol bach sy’n tua 20,000 troedfedd sgwâr; byddan nhw un ai ar gael yn gyfan neu fel unedau unigol rhyw 2,000 troedfedd sgwâr.  Maen nhw’n gobeithio dechrau’r gwaith ar y safle ym mis Medi eleni.”
 

Rhannu |