Mwy o Newyddion
Ysbienddrych ‘dirgel’ Napoleon yn dod i'r golwg
Cafodd ysbienddrych, neu delesgop poced, a ddefnyddiwyd gynt gan Napoleon ei ddarganfod yn ddiweddar ar ôl iddo fod ar goll yn islawr cartref teuluol am 150 o flynyddoedd. Caiff ei arddangos am y tro cyntaf ym Mhlas Newydd yng Ngogledd Cymru.
Credir bod Napoleon wedi defnyddio'r ysbienddrych yn ystod ei frwydrau arwrol niferus, ond ni aeth gydag ef i Waterloo ar ôl iddo ddianc o Elba. Bydd p'un a fyddai hanes wedi bod yn wahanol pe bai'r ysbienddrych ym meddiant Napoleon ar 18 Mehefin 1815 yn aros yn ddirgelwch hanesyddol.
Mae stori'r ysbienddrych yn ddirgelwch hefyd. Mae'n un o'r eitemau cyfareddol a welir yn Arddangosfa Amgueddfa Waterloo ym Mhlas Newydd, ar lannau'r Fenai. Mae hwn yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn hen gartref teuluol Ardalydd Môn.
Mae'r ysbienddrych wedi ei roi ar fenthyg ar gyfer yr arddangosfa arbennig hon drwy haelioni'r Ardalydd Môn presennol.
Meddai Simon Pickering, Rheolwr Tŷ a Chasgliadau Plas Newydd: “Mae hwn yn un o'r darnau hudolus hynny sy'n gallu cysylltu pobl â'r gorffennol, ac rydym wedi'n gwefreiddio o gael ei rannu â'r cyhoedd am y tro cyntaf ar adeg deucanmlwyddiant Waterloo.
“Mae gan yr ysbienddrych hanes anhygoel a gafodd ei golli am byth bron iawn, nes iddo gael ei ailddarganfod ar ôl 150 o flynyddoedd, wedi ei storio mewn seler er diogelwch.
“Roedd yn hynod o fregus pan gafodd ei ddarganfod ond nawr mae wedi cael ei adfer fel y gellir ei arddangos i ymwelwyr.”
Cynllwynio a “chydgynllwynio”
Roedd Ardalydd Cyntaf Môn yn gyfrifol am reoli marchoglu'r Dug Wellington wrth iddynt ymladd yn erbyn Napoleon ym Mrwydr Waterloo ym 1815, gan golli ei goes yn y frwydr. Ar ôl hyn, daeth yn berchennog y goes gymalog gyntaf yn y byd.
Yna cyflwynwyd ysbienddrych Napoleon i'w fab, yr Ail Ardalydd, ym 1867 gan Gonswl Prydain ar ynys Elba, fel cofarwydd er anrhydedd i rôl ei dad yn Waterloo.
Roedd Napoleon wedi ei alltudio i Elba ym 1814-15 ac roedd yr Ail Ardalydd yn ymweld ag Elba ym 1867 fel Pencadlywydd llynges Prydain ym Môr y Canoldir.
Roedd llawer iawn o gynllwynio'n gysylltiedig â'r ysbienddrych hefyd cyn iddo ddiflannu o olwg y cyhoedd.
Yn ôl ffynonellau teulu, credid bod yr ysbienddrych wedi dod i “feddiant” yr Uwchgapten Campbell a oedd yn Gonswl Prydain mewn ffaith ar Elba yn ystod alltudiaeth Napoleon ar yr ynys hon ym Môr y Canoldir rhwng 1814 a 1815.
Ar hyd y blynyddoedd, bu dyfalu ynghylch p'un a fu'r Uwchgapten Campbell yn “cydgynllwynio” yn ystod fföedigaeth sydyn Napoleon o Elba i ddychwelyd i faes y gad a'i wrthdaro olaf yn Waterloo.
Credir bod Napoleon wedi gadael Elba ar gymaint o frys nes iddo adael llawer o'i eiddo mwyaf hoff ar ôl, yn cynnwys yr ysbienddrych a gymerwyd gan yr Uwchgapten Campbell.
Fodd bynnag, roedd cymaint o amheuaeth ynghylch yr Uwchgapten Campbell ar ôl i Napoleon gael ei gipio ymaith oddi ar Elba, fel y gwrthodwyd comisiwn iddo i ymladd ar y cyd â Wellington ac Ardalydd Môn yn Waterloo.
Yn lle hynny, anfonwyd yr Uwchgapten Campbell yn gonswl i Sierra Leone a bu farw yno yn ŵr gwan a digalon ym 1864.
Fodd bynnag, oherwydd ei rôl yn cael gafael ar yr ysbienddrych, cafodd hwn ei drosglwyddo ymhen amser i deulu Ardalydd Môn.
Esbonia'r Ardalydd Môn presennol – yr wythfed – sut ddaeth i wybod am fodolaeth a hanes yr eitem:
“Roedd fy nhad yn dangos y cymysgwch o wrthrychau llychlyd yn islawr Plas Newydd i mi, a dywedodd mai un o'r eitemau mwyaf diddorol oedd Ysbienddrych Napoleon.
“Roedd wedi cael ei gyflwyno i'r Arglwydd Clarence Paget (yr Ail Ardalydd) a'i wraig, Y Fonesig Clarence Paget, gan Gonswl Lloegr yn Elba ym 1867.
“Rydym bron yn sicr y cafodd yr ysbienddrych ei ddefnyddio gan Napoleon 42 flynedd yn gynharach pan oedd mewn alltudiaeth ar ynys Elba ac yn breuddwydio am ddianc a dychwelyd i Ffrainc.
“Yna llwyddodd i ddianc i Ffrainc a chafodd ei drechu o'r diwedd yn Waterloo – chwaraeodd yr Ardalydd Cyntaf ran flaenllaw yn y frwydr hon."
Gwaith adfer gofalus
O ganlyniad i'r blynyddoedd dan glo yn yr islawr llychlyd, roedd yr ysbienddrych mewn cyflwr eithriadol o fregus ac arno angen ei atgyweirio.
Mae bellach wedi mynd drwy broses gadwraeth ofalus a bydd yn ganolbwynt arddangosfa newydd yn Amgueddfa Waterloo ym Mhlas Newydd, sef rhan o'r tŷ sy'n hoff iawn gan ei ymwelwyr niferus.
Ychwanegodd Simon Pickering, Rheolwr Tŷ a Chasgliadau Plas Newydd: “Mae rôl yr Ardalydd Cyntaf yn Waterloo yn rhan bwysig o'r stori yma ym Mhlas Newydd. Collodd ei goes yn y frwydr, a dyluniwyd y goes bren gymalog gyntaf erioed ar ei gyfer. Mae hon yn yr arddangosfa yn yr Amgueddfa yn barod.
“A nawr, mae cael arddangos ysbienddrych yma, a ddefnyddiwyd gynt gan ei elyn mawr, Napoleon, yn ystod deucanmlwyddiant Brwydr Waterloo yn gyffrous dros ben, ac rydym wedi'n gwefreiddio o fedru rhannu gwrthrych mor bwysig a chyfareddol gyda'n hymwelwyr.
“Bydd yr uchafbwyntiau eraill yn yr arddangosfa yn cynnwys Llyfr Gweddi Gyffredin y Dug Wellington – a adawyd i'r Wythfed Ardalydd Môn presennol yn ei ewyllys gan ei dad bedydd, y Dug Wellington diweddaraf – ynghyd â'r goes oedd yn weddill o'r trowsus a wisgodd yr Ardalydd Cyntaf yn Waterloo, yn cynnwys olion y mwd a'r gwaed o faes y gad.”
· Mae arddangosfa Amgueddfa Waterloo yn agor ar 13 Mehefin i ddechrau yn ystod Wythnos Waterloo. Gwnaed y gwaith cadwraeth ar yr ysbienddrych gan Edge Conservation, Lerpwl, ac roedd yn golygu glanhau a sefydlogi'r cydrannau yn ofalus ynghyd â'u mowntio yn eu trefn gywir ar gyfer eu harddangos.
· Aed â'r ysbienddrych i sesiwn ffilmio ddiweddar o'r Antiques Roadshow ym Mhlas Newydd (4 Mehefin) a bydd y rhaglen yn cael ei sgrinio ym mis Hydref.
· Cynhelir noson agored estynedig arbennig ar gyfer yr arddangosfa ddydd Iau, 18 Mehefin i ddathlu'r deucanmlwyddiant .