Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Mehefin 2015

Sicrhau bod menywod yn cyrraedd eu potensial

Mae Plaid Cymru wedi amlinellu cynigion i chwalu rhagfuriau cyflog rhwng y rhywiau a helpu menywod i gyrraedd eu potensial. Wrth drafod adroddiad a gomisiynwyd gan Blaid Cymru, amlygodd Gweinidog cysgodol y Blaid dros yr Economi Rhun ap Iorwerth dri phrif faes pryder ynghylch y canlynol

·         Cau bwlch cyflogau’r rhywiau

·         Annog menywod i lwyddo

·         Datblygu atebion gofal plant.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Rhun ap Iorwerth y dylai camau i helpu menywod i wneud cyfraniad economaidd mwy ganolbwyntio ar gynyddu cyrhaeddiad menywod. Dylai gynnwys gweithredu i annog menywod i mewn i swyddi mewn meysydd sy’n tyfu yn economaidd, gan godi ymwybyddiaeth o fwy o amrywiaeth o lwybrau gyrfa a datblygu atebion gofal plant sy’n cwrdd ag anghenion teuluoedd modern sy’n gweithio.

Cynigiodd Plaid Cymru hefyd weithio gyda chyflogwyr i godi ymwybyddiaeth am ffyrdd newydd o weithio er mwyn annog gweithio hyblyg fydd o les i rieni sydd ag ymrwymiadau gofal plant. Ar hyn o bryd, menywod sy’n gwneud 77% o swyddi rhan-amser. Mae hyn yn broblem oherwydd bod y rhan fwyaf o swyddi rhan-amser yn rhai sgiliau isel gyda chyflogau isel, ac y mae hyn yn atal menywod rhag gwneud llawn ddefnydd o’u sgiliau a’u profiad.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Rhun ap Iorwerth:

“Er bod cynnydd wedi ei wneud, mae menywod yn dal i wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag gwneud cyfraniad llawn i’r economi. Mae menywod yn ennill ar gyfartaledd 20% yn llai na dynion, a gorfodir llawer i gymryd swyddi islaw eu sgiliau. Dyna pam fod angen i ni godi ymwybyddiaeth o ffyrdd newydd o weithio a helpu cyflogwyr i ddod o hyd i ffyrdd o weithio sydd o les iddynt hwy a’u gweithwyr.

“Dengys yr ymchwil a gyhoeddwyd heddiw gan Blaid Cymru fod diffyg hyder yn ffactor allweddol a grybwyllwyd gan dri chwarter o fenywod oedd yn teimlo bod rhwystrau rhyw yn eu hatal rhag cyrraedd lefel uchel yr haen reoli. Problem yw hon y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hi trwy roi esiamplau i fenywod a helpu i godi ymwybyddiaeth o amrywiaeth y llwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt.

“Mae diffyg gofal plant addas yn cael ei roi fel rhwystr i gynnydd mewn gyrfa gan 90% o fenywod, a 80% o gyflogwyr. Mae gofal plant yn ddrud, ac yn y DG, rydym yn talu’r gyfradd ail uchaf am ofal plant yn y byd datblygedig. Mae’n bryd mynd i’r afael â hyn a datblygu patrymau o ofal plant sydd yn cwrdd ag anghenion teuluoedd modern sy’n gweithio.

“Bydd Plaid Cymru yn gwneud i Gymru lwyddo, ac y mae hynny yn golygu cefnogi pawb mewn cymdeithas i gyrraedd eu potensial, a gwneud y cyfraniad economaidd sydd o fewn eu gallu.”

Rhannu |