Mwy o Newyddion
Bydd morlyn yn rhoi Abertawe ar flaen y gad o ran arloesedd byd-eang
Gallai Abertawe fod ar lwyfan y byd cyn bo hir fel un o ddinasoedd fwyaf blaenllaw'r byd o ran arloesedd a chreu ynni cynaliadwy, yn ôl Cyngor Abertawe.
Mae'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, yn dweud bod cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Ynni, Amber Rudd, o gynlluniau ar gyfer prosiect morlyn llanw gwerth £1 biliwn ym Mae Abertawe'n newyddion calonogol dros ben ar gyfer Dinas-Ranbarth Bae Abertawe gyfan.
Mae astudiaeth gan Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd yn amcangyfrif y gallai'r cam tair blynedd i adeiladu morlyn fod yn werth dros £500 miliwn i economi Cymru.
Mae'r Cyng Stewart yn dweud y bydd y prosiect yn gwneud Abertawe'n esiampl dros arloesedd ac yn creu llawer o fuddion hamdden a thwristiaeth i drigolion Abertawe ac ymwelwyr â'r ddinas.
Meddai'r Cyng. Stewart, "Mae Abertawe wedi bod yn ddinas arloesedd ac yn ddinas flaengar erioed, o sefydlu trên cyntaf y byd i deithwyr yn y Mwmbwls i ddynodi Gŵyr yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU
" Bydd y gymeradwyaeth i'r cynlluniau hyn ar gyfer cyfleuster morlyn llanw newydd sylweddol - y cyntaf o'i bath yn y byd - yn cryfhau ein statws ymhellach fel dinas arloesedd flaenllaw ar adeg pan fo dau gampws prifysgol newydd yn cael eu datblygu ac mae Syr Terry Matthews, fel cadeirydd Bwrdd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, yn hyrwyddo Bae Abertawe ar draws y byd fel lle i ymweld ag ef a buddsoddi a gwneud busnes ynddo.
"Byddai adeiladu'r morlyn llanw hefyd yn hwb mawr i'r economi leol. Nid yn unig y bydd yn creu swyddi newydd a chynyddu masnach i fusnesau lleol presennol ond bydd cynnwys cyfleusterau ar gyfer beicio, cerdded, pysgota, rhedeg, rhwyfo a hwylio'n creu buddion hamdden i bobl leol a rhoi hwb ychwanegol i ddiwydiant twristiaeth sydd eisoes yn werth mwy na £360 miliwn y flwyddyn i'r ardal leol.
"Bydd hefyd yn creu diwydiant newydd ar garreg ein drws a allai esgor ar farchnad allforio newydd yn Abertawe.
"Gallai harneisio ynni môr yn y ffordd ddychmygus hon wneud Abertawe'n esiampl i'r byd yn ddigon buan o arfer gorau mewn arloesedd a chynaladwyedd. Gallai hyn sbarduno cynlluniau tebyg ledled y byd wrth i ddinasoedd a gwledydd eraill ddilyn esiampl Abertawe."
Gallai tua 1,850 o swyddi adeiladu gael eu creu gan brosiect y morlyn llanw, a allai fod yn gweithredu o 2018. Pan fydd yn gweithredu'n llawn, disgwylir y bydd yn creu 500GWH o drydan bob blwyddyn - mae hynny'n ddigon i bweru mwy na 155,000 o gartrefi.
Mae derbyn caniatâd cynllunio'n golygu bod y prosiect uchelgeisiol hwn wedi symud cam yn nes at gael ei wireddu.
Ewch i www.tidallagoonswanseabay.com i gael mwy o wybodaeth am y prosiect.