Mwy o Newyddion
Manylion mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Ddoe, gosododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford fanylion y mesurau arbennig sydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dilyn ei fethiant i wneud gwelliant digonol yn erbyn pryderon hirdymor ynghylch llywodraethu, arwain a materion eraill.
Cyhoeddodd y Gweinidog ddydd Llun fod mesurau arbennig wedi cael eu gosod ar y bwrdd iechyd yn dilyn cyfarfod brys rhwng Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i adolygu statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Yn dilyn penderfyniad y Gweinidog, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ei fod wedi gwahardd ei brif weithredwr ar unwaith.
Mae’r Gweinidog wedi gofyn i Simon Dean, dirprwy brif weithredwr GIG Cymru a phrif weithredwr Ymddiriedolaeth GIG Cymru, i gymryd yr awenau fel y swyddog cyfrifol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar unwaith. Bydd Mr Dean yn goruchwylio’r trefniadau i roi arweinyddiaeth tymor hwy i wasanaethau iechyd yn y Gogledd.
Mae’r Gweinidog hefyd wedi amlinellu nifer o feysydd lle bydd angen dangos gwelliant mesuradwy fel rhan o’r drefn o fesurau arbennig:
* Llywodraethu, arwain a throsolwg – mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd gymryd camau ynghylch llywodraethu a sicrwydd sydd wedi’u hamlinellu mewn cyfres o adroddiadau, gan gynnwys gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac mewn adolygiad a wnaed gan Ann Lloyd. Bydd adroddiad Ann Lloyd yn cael ei gyhoeddi heddiw;
* Gwasanaethau iechyd meddwl – mae’n rhaid i’r bwrdd roi’r cynllun iechyd meddwl ar gyfer y Gogledd ar waith, gan gynnwys camau sy’n codi o adolygiadau blaenorol, pryderon ynghylch llywodraethu a’r adroddiad diweddar i achosion yn Tawel Fan;
* Gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd – mae’n rhaid i’r bwrdd ateb y cwestiwn ynghylch dyfodol gwasanaethau mamolaeth dan arweiniad ymgynghorydd yn Ysbyty Glan Clwyd, gan gydnabod y materion ynghylch ansawdd, diogelwch a chynaliadwyedd y gwasanaeth, a datblygu cynlluniau ar gyfer y Ganolfan Isranbarthol ar gyfer Gofal Newyddenedigol Dwys;
* Gwasanaethau meddyg teulu a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau – mae’n rhaid i’r bwrdd iechyd ymateb i’r adolygiad y tu allan i oriau y mae wedi’i gomisiynu, a’r pryderon cysylltiedig.
* Ailgysylltu â’r cyhoedd ac adennill hyder y cyhoedd – mae’n rhaid i’r bwrdd gynnal a goruchwylio ymarfer gwrando er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ffordd wahanol. Mae angen iddo wneud hynny yn gyflym ac mae angen iddo wrando ar yr hyn sydd gan y boblogaeth leol i’w ddweud yn hytrach na dim ond dweud beth yw safbwynt y bwrdd.
Bydd set o unigolion allweddol yn cynorthwyo’r bwrdd drwy roi cyngor arbenigol, fel sy’n ofynnol o dan y mesurau arbennig. Mae’r unigolion yn cynnwys:
* Dr Chris Jones, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, a fydd yn rhoi cyngor a chymorth mewn perthynas â gwasanaethau meddyg teulu a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau;
* Peter Meredith-Smith, cadeirydd dros dro presennol y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned a chyfarwyddwr cysylltiol y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, a fydd yn cynnig arbenigedd ynghylch nyrsio iechyd meddwl. Bydd tîm iechyd meddwl 1,000 o Fywydau hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Mr Meredith-Smith a’r bwrdd iechyd i sicrhau bod diwylliant gofal a gwasanaethau yn gwella mewn ffordd gynaliadwy;
* Ann Lloyd, cyn brif weithredwr GIG Cymru, a fydd yn rhoi trosolwg ar lywodraethu ac atebolrwydd.
Bydd y Dirprwy Weinidog Vaughan Gething yn arwain ar y trosolwg Gweinidogol o ran trefniadau’r mesurau arbennig.
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Ddoe, gwnes i’r penderfyniad i osod mesurau arbennig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd hyn wedi i fi gael cyngor gan fy swyddogion, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru bod y bwrdd heb wneud cynnydd digonol o ran ateb pryderon hirdymor am lywodraethu, arwain a chynnydd.
“Bydd y mesurau rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn cynnig sefydlogrwydd ar unwaith ac yn sicrhau bod y bwrdd yn cael cyngor a chyfarwyddyd clir ac awdurdodol ynghylch cyflawni ei gyfrifoldebau. Mae hyn oll wedi digwydd – fel sy’n briodol – drwy ddilyn y prosesau rydyn ni wedi’u gosod yng Nghymru ar gyfer datrys y materion pwysig hyn.
“Caiff mesurau arbennig eu gosod dim ond mewn ymateb i bryderon difrifol – dyw hyn ddim yn ymateb arferol; mae’n adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa ac yn dod yn sgil cyfarfod a benderfynodd nad yw’r bwrdd iechyd wedi ymateb nac ymdrin ag ystod o feysydd mewn ffordd sy’n ennyn hyder a sicrwydd.”
Ychwanegodd y Gweinidog: “O ystyried difrifoldeb a natur eithriadol y mesurau arbennig, bydd y trefniadau hyn yn cael eu monitro’n agos a’u hadolygu’n gynnar i sicrhau bod cynnydd yn cael ei wneud. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn gwneud adolygiad ffurfiol o hynt y gwaith ymhen pedwar mis.
“Mae hwn yn gyfnod heriol i’r gwasanaeth iechyd yn y Gogledd, ond mae’n rhaid i ni gofio bod dros hanner miliwn o bobl yn derbyn gofal o ansawdd uchel bob dydd. Bydd y mesurau hyn yn helpu i gryfhau’r drefn weinyddu ar gyfer gwasanaethau iechyd yn y Gogledd yn y dyfodol.”