Mwy o Newyddion
Cefnder Cymreig i Tyrannosaurus rex
MAE sgerbwd ffosil deinosor theropod wedi cael ei ddarganfod ar draeth ger Penarth ym Mro Morgannwg ac am gael cartref newydd yn Amgueddfa Cymru.
Roedd y deinosor newydd hwn yn gefnder Cymreig pell i Tyrannosaurus rex ac yn byw ym mlynyddoedd cynharaf y Cyfnod Jwrasig, 201 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Dyma o bosib y deinosor Jwrasig hynaf yn y byd. Bydd y ffosil i’w weld ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 9 Mehefin a 6 Medi.
Dyma ‘ddarganfyddiad oes’ dau frawd o Lanilltud Fawr, Nick a Rob Hanigan, wrth hela ffosilau ar draeth Larnog wedi i stormydd gwanwyn 2014 daro arfordir Bro Morgannwg.
Wrth archwilio cwymp creigiau ar y traeth, dyma weld nifer o flociau rhydd ag ynddynt ddarnau o sgerbwd deinosor bach. Dyma gasglu’r sbesimen oedd yn cynnwys dannedd miniog a chrafangau.
Cafodd yr esgyrn ffosiledig eu canfod wedi’i gwasgaru dros bum darn o graig, ac er bod rhai wedi’u cadw yn eu safle cywir, roedd eraill wedi’u gwahanu a’u gwasgaru gan bysgod a draenogod môr sydd hefyd wedi’u ffosileiddio gyda’r esgyrn.
Bu Nick a Rob wrthi’n ofalus yn paratoi’r sbesimen cyn cysylltu â Cindy Howells, curadur palaeontoleg Amgueddfa Cymru. Llwyddodd hi, ynghyd ag arbenigwyr deinosor o Brifysgolion Portsmouth a Manceinion, i ddadansoddi’r dannedd a’r esgyrn.
Llwyddodd y tîm i gadarnhau fod y deinosor hwn yn gigysydd o’r grŵp theropodau. Mae’n debyg hefyd mai deinosor ifanc ydoedd gan fod rhai o’r esgyrn heb eu ffurfio’n llawn eto. Parhau mae’r gwaith ymchwil, a phapur gwyddonol ar y gweill fydd yn datgelu enw’r rhywogaeth newydd.
Roedd y deinosor Cymreig yn fach, yn denau ac yn chwim. Mae’n debyg nad oedd yn llawer talach na 50cm, a tua 200cm o hyd gyda chynffon hir i gadw cydbwysedd. Pan oedd yn crwydro’r Ddaear roedd de Cymru yn ardal arfordirol gyda hinsawdd gynnes.
Roedd gan y deinosor lawer o ddannedd bychan a miniog fel cyllyll, sy’n awgrymu ei fod yn bwyta pryfed, mamaliaid bychan ac ymlusgiaid.
Mae’n debyg fod mân-blu yn gorchuddio’i gorff, fel nifer o ddeinosoriaid therapod eraill, ar gyfer inswleiddio ac efallai ar gyfer arddangosiad. Mae’n bosibl hefyd bod cwils ar ei gefn ar mwyn amddiffyn ei hun,
Mae’r creigiau sy’n cynnwys y ffosilau yn dod o ddechrau’r cyfnod Jwrasig, rhyw 201.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Bryd hynny, roedd y deinosoriaid yn dechrau amrywio mwy.
Mae’r sbesimen hwn yn un o’r unigolion Jwrasig cynharaf yn y DU. Mae’n perthyn i’r Coelophysis oedd yn byw rhyw 203 i 196 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn ardal sydd erbyn hyn yn dde-orllewin Unol Daleithiau America.
Er bod dannedd ac esgyrn deinosoriaid wedi eu darganfod yn ne Cymru yn y gorffennol ger Pen-y-Bont, y Barri a’r Bont-faen, y deinosor newydd hwn yw’r sgerbwd therapod cyntaf i gael ei ddarganfod.
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae hwn yn ddarganfyddiad arbennig iawn, ac mae Nick a Rob Hanigan wedi bod yn hynod o hael wrth roi’r sbesimen rhyfeddol hwn i Amgueddfa Cymru, i’w gadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Rydym wrth ein bodd fod y sbesimen hon yn cael ei arddangos, gan roi golwg unigryw i ymwelwyr o sgerbwd ffosiledig y deinosor cigysol cyntaf yng Nghymru, ac un o’r deinosoriaid Jwrasig cyntaf yn y byd.”
Dywedodd Nick Hanigan: “Dyma ddarganfyddiad mwyaf ein bywydau – roedd paratoi’r penglog a gweld dannedd therapod am y tro cyntaf mewn 200 miliwn o flynyddoedd yn brofiad anhygoel – allwch chi ddim curo’r math yna o beth!”
Ychwanegodd Rob Hanigan: “Roedd rhoi’r deinosor i’r Amgueddfa er mwyn i’r cyhoedd a gwyddonwyr ei weld ac ymchwilio iddo yn fwriad o’r cychwyn.”
Dywedodd Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru: “Dyma newyddion cyffrous i Amgueddfa Cymru.
“Mae’r gwaith a wnaed gan y tîm ymchwil i adnabod y deinosor hwn yn brawf o’u sgiliau a’u gwybodaeth ac mae’n wych eu gweld yn cael eu gwobrwyo gyda’r rhodd hon i’r Amgueddfa.
“Mae deinosoriaid yn dal i ddal ein dychymyg. Bydd yr arddangosfa gyffrous yn caniatáu i ymwelwyr o Gymru a thu hwnt gael blas o’r darganfyddiad pwysig hwn – a hynny am ddim!”
Mae rhaglen weithgareddau ac arddangosfeydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn derbyn cefnogaeth hael chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.