Mwy o Newyddion
Mesurau arbennig yn cael eu gosod ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi y bydd mesurau arbennig yn cael eu gosod ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Yn dilyn pryderon ynghylch arwain, llywodraethu a chynnydd yn y Bwrdd Iechyd, gofynnodd y Gweinidog i Brif Weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, symud cyfarfod rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Iechyd Cymru – fel rhan o fframwaith uwchgyfeirio GIG Cymru – i adolygu ac ystyried statws cyfredol y bwrdd iechyd.
Ers cyflwyno’r fframwaith ym mis Mawrth 2014, mae’r Bwrdd Iechyd eisoes wedi bod yn destun camau ymyrryd penodol, y mwyaf o blith holl sefydliadau’r GIG yng Nghymru.
Daeth y cyfarfod a gynhaliwyd ddoe rhwng y tri chorff i’r casgliad y dylid gosod mesurau arbennig ar y Bwrdd Iechyd, sef y lefel uwchgyfeirio uchaf o dan y fframwaith. Mae’r Gweinidog wedi derbyn y cyngor hwn ac mae Cadeirydd y Bwrdd Iechyd wedi cael ei hysbysu am benderfyniad y Gweinidog.
Dywedodd Mark Drakeford: “O ganlyniad i’r cyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach heddiw rhwng Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoleiddio, gallaf gadarnhau y bydd mesurau arbennig yn cael eu gosod ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
“Mae’r penderfyniad arwyddocaol hwn yn cael ei wneud yn unol â’r fframwaith uwchgyfeirio. Mae’n adlewyrchu pryderon difrifol sydd heb eu datrys ynghylch arwain, llywodraethu a chynnydd yn y Bwrdd Iechyd dros gyfnod. Mae’r meysydd o bryder wedi cael eu hasesu mewn ffordd drylwyr a chytbwys, a bydd hyn yn sail i gamau gweithredu’r mesurau arbennig.
“Tra bydd y sefydliad o dan fesurau arbennig hoffwn roi sicrwydd i’r cleifion a’r cymunedau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu gwasanaethu a’r staff sy’n gweithio iddo y bydd gwasanaethau a gweithgareddau bob dydd yn parhau yn ôl yr arfer.”
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried camau ac ymyriadau pellach fel rhan o’r mesurau arbennig, ac yn cael cyngor a chymorth gan gyrff rheoleiddio. Bydd y Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi manylion pellach mewn datganiad o flaen y Cynulliad heddiw.