Mwy o Newyddion
Ymgyrch i achub sinema
OS daw pobl Porthmadog ynghyd, gellir achub sinema’r Coliseum, yn ôl cynrychiolydd ar gyfer grŵp newydd sydd wedi dod at ei gilydd i roi bywyd newydd i’r sinema.
Mae busnesau ac unigolion yn cynnig syniadau gwerthfawr a chymorth i ail-agor y Coliseum. Er hynny, fel esbonir gan Aled Jones, un o gynrychiolwyr Achub y Coliseum, mae angen mwy o help: “’Dan ni angen pob help allwn ni ei gael ac yn galw ar unrhyw un i helpu mewn unrhyw ffordd posib. Gall unigolion neu fusnesau ymuno.
“Os oes gennych chi sgiliau neu angerdd at yr achos, mae’ch sinema eich hangen chi.”
Ychwanega Aled: “Mae’r sinema yn dal ar ei draed heddiw yn dilyn ymdrech anhygoel pobl cymwynasgar ac ymroddgar a weithiodd gyda’i gilydd i’w achub chwarter canrif yn ôl. Ond mae angen maldod o ddifrif i ddod ag o’n ôl i’w gyn-ogoniant. Rŵan mae hi’n amser i genhedlaeth newydd sicrhau dyfodol y Coliseum ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”
Mae’r Coliseum, a agorwyd yn 1931, wedi cau ers Ionawr 2011 pan ddaeth ei gostau cadw’n rhy uchel.
Mae Lyndon Creamer o Penrhyn Tool Hire wedi cynnig benthyca cyfarpar i helpu i drwsio’r Coliseum. “Byddai’n biti garw petai’r Coliseum yn mynd,” meddai. “Mae’n un o’r pethau olaf i ddod â phobl at ei gilydd yn y gymuned.
“Os galla i roi ychydig o help llaw drwy rhoi benthyg cyfarpar, yna, dw i ond yn rhy falch o allu helpu.”
Mae angen llawer o waith cyn i’r Coliseum fod yn barod i agor ei ddrysau unwaith eto. Dim ond un ymysg llawer yw Lyndon sydd yn credu bod yr ymdrech yn werth chweil.
Meddai: “Mae am fod yn waith caled, ond os allwn ni achub y Coliseum, yna bydd yn rywbeth i edrych yn ôl arno a theimlo’n falch.”
Grŵp yw Achub y Coliseum sydd wedi ei ffurfio gyda’r bwriad o ail-agor sinema Coliseum Porthmadog a gwneud hynny mewn modd broffidol.
Mae’r pwyllgor yn datblygu’n gryf ac yn fwy cydlynol bob wythnos, ers ffurfio fis yn ôl. Erbyn hyn, mae ganddynt aelodau cadarn, hynod o ymroddgar a thalentog yn chwarae rhannau hanfodol ac maent yn bwriadu parhau felly.
Cynhelir cyfarfodydd cyson ac mae croeso i bawb fynychu.
Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.savethecoliseum.com