Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Mehefin 2015

Beirniadu bwriad Banc Natwest i gau tair cangen yn Nwyfor Meirionnydd

Mae cynlluniau gan fanc NatWest i gau tair cangen yng Ngwynedd wedi cael ei feirniadu gan Aelod Seneddol Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd Liz Saville Roberts.

Roedd Liz Saville Roberts yn ymateb i newyddion bod y banc yn bwriadu cau 11 cangen ar draws Gogledd Cymru erbyn mis Medi 2015 gan gynnwys yr unig fanc yn mhentref Abersoch.

Bydd canghenau Blaenau Ffestiniog a Thywyn hefyd yn cau.  

Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts: “Mae adroddiadau diweddar ynghylch dyfodol canghennau NatWest yn Abersoch, Blaenau Ffestiniog a Tywyn yn peri pryder mawr. Bydd cau y canghennau hyn yn ergyd fawr i drigolion lleol, a busnesau, yn enwedig unigolion anabl, yr henoed a'r rhai sydd methu gyrru.

"Y ddadl gyson yw y gall cwsmeriaid ddefnyddio bancio ar-lein. Ond nid yw hyn rhoi ystyriaeth i'r gwasanaeth band-eang gwael sydd i'w ganfod mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig rhai ardaloedd o Ddwyfor Meirionnydd.

"Byddai cau cangen NatWest yn Abersoch yn golygu cau unig fanc y pentref, gan orfodi cwsmeriaid i deithio dros bum milltir i'r banc agosaf ym Mhwllheli. Dyma enghraifft arall o gymunedau gwledig ledled Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaeth bancio digonol.

"Dylai bosys y banciau hefyd ystyried y ffaith nad oes gan bawb fynediad i'r we, yn enwedig yr henoed sy'n hoff o fancio gyda phobl gyfarwydd y gallant ymddiried ynddynt. Mae'n debyg mai unigolion mwyaf bregus ein cymunedau sy'n dioddef bob tro yn sgil penderfyniadau o'r fath.”

Rhannu |