Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Mehefin 2015

Pabïau teimladwy yn ailflodeuo ar draws Abertawe

Mae gwelyau o babïau wedi dechrau blodeuo unwaith eto ar draws Abertawe wrth i'r wlad barhau i nodi 70 mlynedd ers dechrau'r Ail Ryfel Byd.

Mae'r pabïau a blannwyd y tu allan i'r Ganolfan Ddinesig a ger y Senotaff ar lan y môr ymysg y rhai i ailflodeuo'r haf hwn.

Plannodd Cyngor Abertawe'r hadau pabi yn y ddau leoliad 12 mis yn ôl er mwyn nodi canrif ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Casglwyd dros 35kg o hadau pabi am ddim gan breswylwyr neu fe'u harchebwyd gan ysgolion, cymdeithasau hanesyddol, cynghorau cymuned a sefydliadau eraill.

Meddai'r Cyng. Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, "Mae'n wych bod nifer o'r hadau pabi a blannwyd yn wreiddiol yr adeg hon y llynedd yn Abertawe wedi dechrau ailflodeuo unwaith eto eleni. Nid yn unig y mae hi'n olygfa odidog - mae hefyd yn deimladwy iawn, gan fod eleni'n nodi 70 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd a chanrif ers brwydrau'r Rhyfel Byd Cyntaf mewn mannau megis Ypres a Fflandrys, Ffrainc.

"Yn ogystal â'r hadau blodau gwyllt yr ydym eisoes wedi'u plannu mewn dros 125 o leoliadau ar draws y ddinas, bydd yr hadau yn helpu i arwain at fôr o liw'r haf hwn a fydd mor hardd ag yw'n deimladwy. Mae ein hadran barciau yn haeddu canmoliaeth fawr am yr arddangosiadau hyn gan eu bod yn codi ysbryd pobl bob blwyddyn ac wedi derbyn clod gan ymwelwyr y ddinas a miloedd o breswylwyr."

Disgwylir i'r hadau blodau gwyllt gan gynnwys 'summery picking', 'pastel mix', 'rainbow annual' a 'colour bouquets orange' fod yn eu blodau ar draws Abertawe o ganol mis Gorffennaf mewn pryd ar gyfer y prif dymor twristiaid a gwyliau haf yr ysgolion. Mae cynllun y blodau gwyllt yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gyngor Abertawe, cynghorau cymuned ac aelodau wardiau lleol trwy'u lwfansau amgylcheddol.

Mae lleoliadau eraill a fydd yn elwa ar flodau gwyllt dros yr haf yn cynnwys tir ger cylchfan Ynysforgan, Pwll Scott yng Ngellifedw a Rhodfa Dyfed yn Townhill. Mae mannau eraill lle plannwyd hadau'n cynnwys cyfnewidfa Dyfaty, cylchfan Parc Sgeti, Heol Pentreguinea yn St Thomas, Heol Normandy ger Stadiwm Liberty, a rhan o lain ganol Ffordd Fabian.

Rhannu |