Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Mehefin 2015

Angen barn beicwyr a cherddwyr i ddiweddaru mapiau

Rhoddir cyfle i gerddwyr a beicwyr yn Abertawe fynegi eu barn ar y ddarpariaeth llwybrau beicio a cherdded ar draws y ddinas yn y dyfodol.

Mae Cyngor Abertawe'n cynnal ymgynghoriad deuddeg wythnos ar y map llwybrau presennol, gan alw ar y cyhoedd i roi eu barn am eu hoff lwybrau a'r hyn y gellir ei wneud i'w gwella.

Bydd gofyn i'r cyhoedd roi eu barn hefyd am yr archwiliad diweddaraf sydd wedi'i gwblhau ar y llwybrau eu hunain.

Yng Nghymru daeth y Ddeddf Teithio Llesol i rym ym mis Medi 2014 sy'n ei wneud yn ofyniad i gynghorau fapio, cynllunio a pharhau i wella rhwydweithiau teithio llesol sy'n cael eu defnyddio gan gerddwyr a beicwyr.

Mae gan Abertawe dros 50km o lwybrau beicio ac mae llawer ohonynt ar-lein ac mewn arweinlyfrau poced defnyddiol a lunnir gan y cyngor.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant, "Ceir nifer mawr o lwybrau cerdded a beicio yn Abertawe.

"Mae'r archwiliad diweddar o'r llwybrau hyn wedi rhoi'r cyfle i ni asesu eu safon a'u haddasrwydd.

"Rydym bellach am glywed barn y cyhoedd. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhoi'r cyfle i bawb gyfrannu at wella a datblygu beicio a cherdded yn y ddinas yn y dyfodol."

Mae'r cyngor wedi gwella nifer o rannau o lwybrau beicio yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys rhan dwy filltir o'r llwybr beicio cenedlaethol rhwng Stadiwm Liberty a Chyffordd 45 yr M4.

Mae llwybrau beicio a cherdded a rennir hefyd wedi cael eu cyflwyno ger canol y ddinas fel rhan o'r cynllun Cysylltiadau â'r Glannau.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i www.abertawe.gov.uk/deddfteithiollesol

Rhannu |