Mwy o Newyddion
Dathlu llwyddiant Côr Glanaethwy
Ar ôl eu llwyddiant o fod yr act gerddorol uchaf ar raglen ITV Britain’s Got Talent mae aelodau Côr Glanaethwy nôl â’u traed ar y ddaear. Ac yn y rhaglen Mae Gan Glanaethwy Dalent ar S4C nos Sadwrn 6 Mehefin mae arweinyddion y côr a rhai o’r aelodau yn sôn am y profiad o fod ar y sioe a ddenodd dros 13 miliwn o wylwyr.
“Mae’r ymateb i berfformiad y côr wedi bod yn wych,” meddai Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Cerdd Ysgol Glanaethwy. “Da ni wedi cael y fath gefnogaeth yma yng Nghymru sy’n cynhesu’ch calon.
“Roedd ‘na 4,000 act wedi cystadlu felly da ni’n hapus iawn o ddod yn drydydd - yr act gerddorol ucha’ o ran safle. Doedd hi ddim yn siom o gwbl, fe fuom yn dathlu tan oriau mân y bore. Gawson ni ymateb positif bob tro gan y beirniaid - dim ond canmoliaeth gawson ni ganddyn nhw.”
Jules O’Dwyer a’i chi Matisse enillodd Britain’s Got Talent a’r consuriwr Jamie Raven ddaeth yn ail. “Fel un sy’ wastad wedi dweud ‘dewch a variety nôl i deledu’ fedra i ddim cwyno,” meddai Cefin. “Mae’r cyhoedd wedi pleidleisio, mae hynny’n hollol deg; dwi wrth fy modd â gwahanol berfformwyr a dwi’n meddwl bod y ci yn ‘brilliant.’
“Ar ôl profiad fel gawson ni ar Britain’s Got Talent mae’n beth da i ddod 'nôl i fywyd go iawn achos mae rhywun am dipyn yn cael ei chwyddo i fyny mewn rhyw fybl bach ryfedd iawn. Mae’n rhaid byrstio honno’n reit sydyn a chael eich traed yn ôl ar y ddaear.”
Mae Ysgol Glanaethwy, sydd wedi ei lleoli ym Mangor, yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 mlwydd oed eleni. “Oherwydd hynny roedden ni’n edrych am rywbeth gwahanol i wneud ac roedden ni’n ymwybodol bod Britain’s Got Talent yn edrych am rywbeth gwahanol hefyd eleni. Yn ogystal, roedd ganddon ni falans da iawn o leisiau eleni. Mae cymryd rhan wedi codi ein proffil ond prif fwriad cystadlu oedd i ddal ati i roi profiadau amrywiol o berfformio i’r côr.”
Meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys Adloniant, S4C, “Rydym i gyd yn hynod o falch o Gôr Glanaethwy ac yn dathlu eu taith, eu talent a’u llwyddiant ar Britain’s Got Talent. Mae eu perfformiad wedi cydio yn nychymyg Cymru a thu hwnt.”
Mae Gan Glanaethwy Dalent
Nos Sadwrn 6 Mehefin, 9.35, S4C
Gwefan: s4c.cymru Ar alw: s4c.cymru/clic
Cynhyrchiad ITV Cymru ar gyfer S4C